The Colour of Magic
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Nofel ffantasi comig gan Terry Pratchett yw The Colour of Magic. Hwn yw'r llyfr cyntaf yn y gyfres Disgfyd o nofelau, a cyhoeddwyd y nofel hwn yn gyntaf yn 1983. Mae'n un o ddim ond chwech nofel Disgfyd sy'n cael ei rhannu i mewn i bennodau neu adrannau (y rhai arall yw Pyramids, Going Postal a'r tri llyfr i blant). Mae pob adran i ryw raddau yn stori fyr sy'n ymwneud â'r un grŵp o gymeriadau. Y syniad sylfaenol tu ôl i The Colour of Magic yw bod pob peth sy'n digwydd i'r cymeriadau o achos gamblo gan dduwiau y discworld, ac felly bod pob effaith yn ganlyniad o dafliad dîs y duwiau. Dywedir fod hwn yn debyg i gemau chwrae-rhan traddodiadol.
Fel y nofel olynol yn y gyfres, The Light Fantastic, mae The Colour of Magic yn bennaf yn parodïo nofelau ffantasi a'u hystrydebau.