The Pedlar of Penmaenmawr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ffilm ddi-sain fer ddu a gwyn gan y cyfarwyddwr Sydney Northgate a ddaeth allan yn 1912 yw The Pedlar of Penmaenmawr. Cafodd ei sgriptio gan Harold Brett.
Chwareuodd Dorothy Foster a Charles Seymour y prif rannau fel Myfanwy Griffiths a Llewelyn Rhys. Ymhlith yr actorion eraill yn y cast oedd George Trumpeter, O'Neill Farrell, Georgina St. George, Sid Kearns a W. Gladstone Haley.
Cynhyrchwyd y ffilm gan y British and Colonial Kinematograph Company.