Thiruvananthapuram
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Thirivananthapuram (neu Trivandrum) yw prifddinas talaith Kerala yn ne India.
Lleolir y brifddinas yn ne eithaf y dalaith. Ystyr yr enw Thirivananthapuram yw "Dinas y Sarff Sanctaidd" (mae addoli nadroedd yn agwedd hynod ar Hindŵaeth Kerala).
Yr unig atyniad hanesyddol amlwg yn y ddinas fach brysur yw Teml Sri Padmanabhaswamy. Yn ogystal ceir Amgueddfa Napier a Gerddi Sŵolegol. 16km i'r de o Drivandrum mae traeth poblogaidd Kovalam, un o'r rhai gorau yn India.