William Jones (mathemategwr)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mathemategwr Cymreig oedd Syr William Jones (1675 – 3 Gorffennaf 1749).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywyd
Ganwyd a magwyd ef ym mhentref Llanfihangel Tre'r Beirdd, ar Ynys Môn. Roedd e'n ffodus i ennill cefnogaeth y teulu Bulkeley, ac yn hwyrach Iarll Macclesfield er mwyn ennill ei addysg. Addysgodd ef Mathemateg ar fwrdd llong o 1695 hyd 1702, ac wedyn fu yn athro Mathemateg yn Llundain. Fu yn ffrind agos i Syr Isaac Newton a Syr Edmond Halley. Yn 1712, etholwyd ef yn frodor o’r Gymdeithas Frenhinol, a fu yn ei ddirprwy-llywydd am gyfnod. Enwyd ei fab yn William Jones hefyd, a fu yn Ieithydd enwog, yn enwedig am ddarganfod y teulu Indo-Ewropeidd o ieithoedd.
[golygu] Gwaith
Ei gyfraniad mwyaf fel mathemategwr oedd ei gyflwyniad o'r symbol π (y llythyren Groeg pi) i gynrychioli’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a'i ddiamedr. Cyhoeddwyd ei lyfr, Synopsis Palmariorum Matheseos, yn 1705, ac yn hwn welir y symbol pi yn ei hystyr parhaol am y tro cyntaf. Anelwyd y llyfr at ddechreuwyr, ac mae’n cynnwys calcwlws differol a chyfresi diddiwedd. Roedd ganddo ddiddordeb mewn llywio morol, a’r llyfr A New Compendium of the Whole Art of Navigation oedd ei gyhoeddiad cyntaf. Yn 1731 cyhoeddodd Discourses of the Natural Philosophy of the Elements.
[golygu] Cysylltiadau Allanol
- (Saesneg) The Galileo Project
[golygu] Ffynonellau
- Ll. G. Chambers, William Jones yn Bedwyr Lewis Jones (golygydd) (1979) Gwŷr Môn