Y Swyddfa Gymreig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Adran llywodraeth y Deyrnas Unedig a oedd yn gyfrifol dros y rhan fwyaf o feysydd polisi Cymru oedd y Swyddfa Gymreig (1965 - 1999). Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym 1965 gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru er mwyn gweithredi polisïau'r llywodraeth yng Nghymru. Daeth swydd yr Ysgrifennydd Gwladol i fodolaeth ym mis Hydref y flwyddyn gynt. Cafodd y Swyddfa Gymreig ei leoli yn Whitehall, Llundain.
Roedd cyfrifoldebau'r Swyddfa Gymreig yn cynnwys iechyd, addysg, yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, llywodraeth leol, gwasnaeth dŵr a charthffosiaeth, amddiffyn yr amgylchedd a chadwraeth natur, defnydd tir, amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgodfeydd, henebion, cynllunio gwlad a thref, ffyrdd, twristiaeth, gweithrediad Cronfa Ddatblygu Ewrop yng Nghymru a materion eraill yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y cyfrifoldeb felly mewn nifer o adranoedd llywodraeth y DU cyn i'r Swyddfa Gymeig gael ei sefydlu.
Beth bynnag, newidwyd pethau ar ôl refferendwm ar gyfer datganoli ym 1997 a cafodd y Swyddfa Gymreig ei diddymu yn swyddogol ar 1 Gorffennaf 1999 pan drosglwyddwyd mwyafrif ei chyfrifoldebau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru bellach yn bennaeth ar Swyddfa Cymru.