Yr wyddor Arabeg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae'r ieithoedd ganlynol yn defnyddio'r wyddor Arabeg, neu wyddorau sy'n seiliedig arni: Arabeg, Cashmireg, Cwrdeg, Perseg, Sindhi, Urdu. Fe newidiodd Twrceg o'r wyddor Arabeg i'r wyddor Rufeinig yn 1928 ac mae Hausa wedi newid hefyd.
Fel Cymraeg, mae Arabeg yn iaith seiniol ond mae e'n cael ei ysgrifennu o'r dde i'r chwith. Does dim priflythrennau ond mae'r llythrennau yn cael eu hysgrifennu yn wahanol ar ganol ac ar ddiwedd gair er mwyn edrych yn daclus, e.e. mae'r llythyren olaf yn dueddol i orffen gyda chynffon. Fe fydd yr wyddor Arabeg yn edrych yn gymleth i ddechrau ond dydy e ddim. Cofiwch fod yr ysgrif yn rhedeg o'r dde i'r chwith.
[golygu] Y llythrennau
Llythyren | Enw | Cynaniad Cymraeg | Trawsgrifiad Rhufeinig | |||
unigol | gyntaf | ganol | olaf | |||
---|---|---|---|---|---|---|
ﺀ | أ إ ؤ ئ |
hamza | ' (atalnod glotal fel "Y" byr) | ' | ||
ﺍ | — | ﺎ | 'alif | a | a / e | |
ﺏ | ﺑ | ﺒ | ﺐ | ba' | b | b |
ﺕ | ﺗ | ﺘ | ﺖ | ta' | t | t |
ﺙ | ﺛ | ﺜ | ﺚ | tha | th | th |
ﺝ | ﺟ | ﺠ | ﺞ | jim | j | j / dj / g |
ﺡ | ﺣ | ﺤ | ﺢ | ha' | h (pwysleisiol fel wrth anadlu ar eich sbectol) | H |
ﺥ | ﺧ | ﺨ | ﺦ | kha' | ch | kh |
ﺩ | — | ﺪ | dal | d | d | |
ﺫ | — | ﺬ | dhal | dd | dh | |
ﺭ | — | ﺮ | ra' | r | r | |
ﺯ | — | ﺰ | zay | z | z | |
ﺱ | ﺳ | ﺴ | ﺲ | sin | s | s |
ﺵ | ﺷ | ﺸ | ﺶ | shin | sh | ch / sh |
ﺹ | ﺻ | ﺼ | ﺺ | Sad | s (pwysleisiol) | S |
ﺽ | ﺿ | ﻀ | ﺾ | Dad | d (pwysleisiol) | D |
ﻁ | ﻃ | ﻄ | ﻂ | Ta' | t (pwysleisiol) | T |
ﻅ | ﻇ | ﻈ | ﻆ | Za' | dd (pwysleisiol) | Z |
ﻉ | ﻋ | ﻌ | ﻊ | Aayn | â (gyddfol fel wrth ddangos eich llwnc i'r meddyg) | A |
ﻍ | ﻏ | ﻐ | ﻎ | ghayn | rh ("R" gyddfol Ffrangeg neu fel ambell frodor Gwynedd) | gh |
ﻑ | ﻓ | ﻔ | ﻒ | fa' | ff / ph | f / ph |
ﻕ | ﻗ | ﻘ | ﻖ | qaf | g ("C" gyddfol) | q |
ﻙ | ﻛ | ﻜ | ﻚ | kaf | c | k |
ﻝ | ﻟ | ﻠ | ﻞ | lam | l | l |
ﻡ | ﻣ | ﻤ | ﻢ | mim | m | m |
ﻥ | ﻧ | ﻨ | ﻦ | nun | n | n |
ﻩ | ﻫ | ﻬ | ﻪ | ha' | h | h |
ﻭ | — | ﻮ | waw | w | ou / w | |
ﻱ | ﻳ | ﻴ | ﻲ | ya' | î | i / y |
Llythrennau eraill:
unigol | cyntaf | canol | olaf | Enw | Cynaniad Cymraeg | Trawsgrifiad Rhufeinig |
---|---|---|---|---|---|---|
ﺓ | — | ﺔ | ta' marbuta | a / at | a / at | |
ﻯ | — | ﻰ | 'alif maq'ura | a | a / e | |
ﻻ | — | ﻼ | lam 'alif (L+A) | la | la / le |
Nodiadau:
- Mae 28 llythyren yn yr wyddor. Maen nhw wedi eu gwneud o 18 o ffurfiau. Wrth osod dotiau, mae 2 ffurf yn cael eu defnyddio i wneud 3 llythyren yr un, ac mae 6 ffurf yn cael eu defnyddio i wneud 2 lythyren yr un.
- Fe fydd rhai yn cynanu ﺍ fel "a" a rhai fel "e". (Mae hwn yn debyg iawn i frodor Canolbarth Cymru sy'n dweud "cêth fêch" yn hytrach na "cath fach".)
- Mae geiriau benywaidd yn gorffen gyda ﺓ , cynaniad "a" (neu "at" os oes gair arall yn dilyn)
- Gellir ysgrifennu ﺍ ar ddiwedd gair fel ﺎ neu fel ﻰ
- Mae L + A yn cael ei ysgrifennu fel ﻻ yn hytrach na ﺎﻟ , hynny yw; fe fyddyn nhw'n croesi'u gilydd.
[golygu] Trefn yr wyddor
Mae'r Abjad (wyddor Arabeg, lluosog; abjadi) yn y drefn ganlynol fel arfer. Cofiwch ddarllen o'r dde i'r chwith;-
- ﻍ ﻅ ﺽ ﺫ ﺥ ﺙ ﺕ ﺵ ﺭ ﻕ ﺹ ﻑ ﻉ ﺱ ﻥ ﻡ ﻝ ﻙ ﻱ ﻁ ﺡ ﺯ ﻭ ﻩ ﺩ ﺝ ﺏ ﺍ
- gh Z D dh kh th t sh r q S f A s n m l k i T H z w h d j b a
Gellir ymadrodd yr abjad yn y ffordd ganlynol;-
- "aabjad haouaz HuTaï kalaman saAfaS qarashat thakhadh DaZagh".
Neu yn Gymraeg;-
- "abjad hawaz HwTaï calaman sâffaS garashat thachadd DaDDarh".
Ffordd arall o ymadrodd yr abjad yw;-
- "abujadin hawazin HuTïa kalman saAfaS qurishat thakhudh DaZugh".
Mae trefn ychydig bach yn wahanol yn cael ei ddefnyddio yn y Maghreb, sef;-
- ﺵ ﻍ ﻅ ﺫ ﺥ ﺙ ﺕ ﺱ ﺭ ﻕ ﺽ ﻑ ﻉ ﺹ ﻥ ﻡ ﻝ ﻙ ﻱ ﻁ ﺡ ﺯ ﻭ ﻩ ﺩ ﺝ ﺏ ﺍ
- sh gh Z dh kh th t s r q D f A S n m l k i T H z w h d j b a
Fe fydd hwn yn cael ei ymadrodd fel;-
- "aabujadin hawazin HuTïa kalman SaAfaD qurisat thakhudh Zaghush".