.cym
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ymgyrch a sefydlwyd yn Ionawr 2006 i ennill Parth gwefannol i gymuned ieithyddol a diwylliannol y Gymraeg yw .cym (hefyd dotcym).
Cymer y talfyriad CYM am y Gymraeg gan mai dyma yw'r cydnabyddiaeth swyddogol ISO 639-2 alpha-3 i'r iaith.
Crêd y trefnwyr bydd ennill yr hawl i roi .cym ar ddiwedd cyfeiriad gwefan yn codi statws y Gymraeg ac yn arwain at ragor o defnydd o'r Gymraeg ac adnoddau Cymraeg ym maes technoleg gwybodaeth. Honant y byddai .cym hefyd yn rhoi statws ac yn fynegiant weledol i fodolaeth y Gymraeg a Chymreictod.
Ysbrydolwyd yr ymgyrch wedi llwyddiant ymgyrch puntCAT y Catalaniaid i ennill statws i'w cymuned ieithyddol a diwylliannol hwy (.cat).
Am fanylion pellach gweler gwefan yr ymgyrch.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.