New Immissions/Updates:
boundless - educate - edutalab - empatico - es-ebooks - es16 - fr16 - fsfiles - hesperian - solidaria - wikipediaforschools
- wikipediaforschoolses - wikipediaforschoolsfr - wikipediaforschoolspt - worldmap -

See also: Liber Liber - Libro Parlato - Liber Musica  - Manuzio -  Liber Liber ISO Files - Alphabetical Order - Multivolume ZIP Complete Archive - PDF Files - OGG Music Files -

PROJECT GUTENBERG HTML: Volume I - Volume II - Volume III - Volume IV - Volume V - Volume VI - Volume VII - Volume VIII - Volume IX

Ascolta ""Volevo solo fare un audiolibro"" su Spreaker.
CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Cymraeg - Wicipedia

Cymraeg

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Cymraeg ()
Siaredir yn: DU, Ariannin
Parth: Cymru, Patagonia
Siaradwyr iaith gyntaf: 700,000+
Cymru: 611,000
Lloegr: 133,000
Chubut: 5,000
Canada: 3,160
UDA 2,655
Safle yn ôl nifer siaradwyr: Dim yn y 100 uchaf
Dosbarthiad genetig: Indo-Ewropeg

 Celteg
  Ynysol
   Brythoneg
    Cymraeg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Cymru
Rheolir gan: Dim
Codau iaith
ISO 639-1 cy
ISO 639-2 wel (B) /cym (T)
ISO 639-3 cym
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Iaith a siaredir heddiw yn bennaf yng Nghymru yw'r Gymraeg. Fe'i siaredir hefyd gan gymuned fechan yn y yr Ariannin, a gan Gymry ac eraill ar wasgar yn Lloegr a Gogledd America.

Y Gymraeg oedd prif iaith Cymru o'r cyfnod y datblygodd o'r Frythoneg tan ddechrau'r 20fed ganrif. Erbyn heddiw, tua 20% o boblogaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg. Yng Nghymru, er ei bod hi'n iaith swyddogol, nid yw'r Gymraeg yn hollol gydradd â'r Saesneg. Mae rhai hawliau cyfreithiol gan ei siaradwyr, megis yr hawl i gyfathrebu â'r llywodraeth trwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llys barn ac yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ymddengys arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog.[1] Enillwyd yr hawliau cyfreithiol hyn yn sgil llawer o bwyso gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill a esgorodd ar gyfres o ddeddfau. Y diweddaraf o'r rhain yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae Cymraeg hefyd yn iaith lai ei defnydd a gydnabyddir gan Undeb Ewrop.

Fel yn achos nifer o ieithoedd llai eu defnydd yn Ewrop ymdrechir heddiw i sicrhau lle i'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd diwylliannol a bywyd bob dydd. Mae'n iaith ysgrifenedig ers tua 600 er nad oes llawysgrifau wedi goroesi o'r cyfnod hwnnw. Mae gan y Gymraeg draddodiad llenyddol di-dor o ddechreuadau'r iaith hyd heddiw. Cyfrifir barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a'r Mabinogi yn rhan o drysor llenyddiaeth Ewrop. Darlledir yn Gymraeg ar y teledu ar sianel S4C ac ar y radio, yn bennaf ar Radio Cymru. Darperir addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ardal bron yng Nghymru. Mae Cymraeg yn bwnc gorfodol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyhoeddus Cymru rhwng 5 ac 16 mlwydd oed.

Ynghyd â Chernyweg a Llydaweg, mae'n disgyn o gangen Frythoneg (P-Gelteg) yr ieithoedd Celtaidd sydd yn eu tro yn disgyn o Indo-Ewropeg.

Taflen Cynnwys

[golygu] Y Cefndir Celtaidd a Rhufeinig

Baner Cymru
Cymraeg
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Iaith
Gramadeg | Yr wyddor | Seinyddiaeth | Orgraff | Morffoleg | Cymraeg ysgrifenedig | Cymraeg llafar | Benthyg geiriau
Hanes
Hanes | Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg | Cymraeg Cynnar | Hen Gymraeg | Cymraeg Canol | Cymraeg Modern Cynnar | Cymraeg Modern Diweddar | Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg
Diwylliant a chyfryngau
Diwylliant | Eisteddfod | Llenyddiaeth | Cerddoriaeth | Theatr | Ffilm | Cyfryngau | Papurau newydd | Radio | Teledu | Rhyngrwyd
Tafodieithoedd
Tafodieithoedd | Cymraeg y gogledd | Cymraeg y de | Y Bowyseg | Y Ddyfedeg | Y Wenhwyseg | Y Wyndodeg | Cymraeg y Wladfa | Wenglish
Mudiadau a sefydliadau
Cymdeithas yr Iaith | Bwrdd yr Iaith Gymraeg | Cymuned

[2] Mae cryn ansicrwydd pa bryd y cyrhaeddodd y Celtiaid neu eu hiaith a’u diwylliant ynysoedd Prydain. Nid oedd arysgrifau yn cael eu hysgrifennu ar henebion y pryd hynny ym Mhrydain, heblaw am arysgrifau’r Pictiaid [3]. Ymhlith y niferoedd lawer o ddamcaniaethau hawlia rhai arbenigwyr fod y Celtiaid wedi cyrraedd tua 2000 CC. Dadleua eraill iddynt gyrraedd Prydain ac Iwerddon ynghynt fyth gyda lledaeniad amaethyddiaeth ar draws Ewrop. Dadleua eraill bod goresgynwyr Celtaidd wedi dod â’u diwylliant a’u hiaith ganddynt wedi 700 CC, gan ddisodli’r brodorion, er bod tystiolaeth enetig erbyn hyn i wrthddweud y syniad hwn. Y ddamcaniaeth a gaiff y gefnogaeth fwyaf ar hyn o bryd yw’r ddamcaniaeth mai'r iaith Geltaidd a'i diwylliant a ymledodd yn hytrach na'r bobl. Ymledodd yn raddol ar draws rhannau helaeth o Ewrop o’r tiroedd rhwng afonydd Donaw a Rhein, gan gael ei gymathu gan y brodorion. Tybir y gallasai masnachwyr yr Ewrop Atlantig yng nghanrifoedd olaf Oes y Pres fod yn ffactor bwysig yn y lledu hwn, gan iddynt efallai ddefnyddio Celteg yn 'lingua franca'.

Ni wyddys faint o olion yr ieithoedd cyn-Geltaidd a erys yn y Gymraeg. Prin yw’r geiriau cyn-Geltaidd y tybir iddynt oroesi yn Gymraeg heblaw am ambell i enw lle. Awgrymir gan rai fod treigladau'r ieithoedd Celtaidd yn tarddu o’r ieithoedd cyn-Geltaidd, ond nid oes prawf o hyn.

Gwyddys mai tafodieithoedd y Frythoneg a siaredid dros fwyafrif Ynys Prydain pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid yn ystod y ganrif gyntaf. Daeth newidiadau dirfawr yn sgil dyfodiad y Rhufeiniaid. Yr oedd llawer ym Mhrydain yn ddwyieithog mewn Lladin a Brythoneg, yn enwedig ar iseldiroedd de Prydain, yn yr ardal sifil Rufeinig (gan gynnwys de-ddwyrain Cymru) a elwid yn ‘Civitas’. Lladin oedd iaith dysg mwy na thebyg a'r brif iaith weinyddol, ac iaith lafar yn unig oedd y Frythoneg. Trafodir dylanwad presenoldeb y Lladin ar y Frythoneg isod. Ond nid oedd dylanwad Lladin ar Frythoneg gymaint ag ydoedd dylanwad Lladin ar ieithoedd Celtaidd eraill yr Ymerodraeth Rufeinig. Yr oedd gafael yr Ymerodraeth Rufeinig a'r Lladin fel ei gilydd ym Mhrydain yn llai nag ydoedd yng Ngâl. Wedi i’r Rhufeiniaid adael fe gollodd Lladin ei thir fel iaith lafar ym Mhrydain, er iddi barhau’n iaith ysgrifenedig.

Ar yr un pryd yr oedd y Frythoneg yn cael ei thrawsnewid. Gyda dyfodiad y Rhufeiniaid roedd y Frythoneg wedi colli ei statws o fod yn brif iaith arweinyddiaeth rhannau helaeth o Brydain. Roedd presenoldeb iaith arall, sef Lladin, yn ychwanegu at ansefydlogi strwythur y Frythoneg. Cyrhaeddodd Cristnogaeth Brydain yn ystod y cyfnod hwn, gan wanhau awdurdod a dylanwad offeiriaid yr hen grefydd. Yr offeiriaid oedd ceidwaid traddodiad, gan gynnwys dulliau ieithyddol traddodiadol. Yn ystod arhosiad y Rhufeiniaid a'r ddwy ganrif wedi iddynt ymadael bu i ffurfiau gramadegol y Frythoneg ddadfeilio'n helaeth a ffurfiau newydd ddatblygu sy'n nodweddiadol o'r Gymraeg.

[golygu] Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg

[4] Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi. [5] Yn fras mae ieithyddion wedi dyfalu bod enwau ac ansoddeiriau wedi colli eu terfyniadau a ffurfiau gwrthrychol, genidol, derbyniol ac ati a oedd yn nodweddu ieithoedd Indo-Ewropeg Gorllewinol yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis dwylo. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Collwyd y genedl ddiryw yn ystod dirywiad y Frythoneg. Datblygodd terfyniadau newyddion neu newidiadau yn llafariaid bôn y gair i wahaniaethu rhwng geiriau unigol a lluosog, e.e. bardd/beirdd. Cafwyd llawer o newidiadau seiniol. Gellir dirnad proses ffurfio patrymau treiglad yn y newidiadau seiniol.

Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg gynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys Tywyn, Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y chweched ganrif, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y chweched ganrif.

[golygu] Datblygiad ieithyddol y Gymraeg

[golygu] Cyfnodau'r Gymraeg

[golygu] Cymraeg Cynnar

[4] Gelwir y cyfnod rhwng dechrau'r Gymraeg tua hanner olaf y 6ed ganrif (gweler uchod) hyd at ddiwedd yr 8fed ganrif yn oes Cymraeg Cynnar. Dim ond ambell i arysgrif ar feini sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn. Fe gynnwys gwaith Beda, Hanes Eglwysig Cenedl yr Eingl, a ysgrifennwyd ar ddechrau'r wythfed ganrif, ambell i enw lle Cymraeg. Mae'r enghraifft gynharaf o Gymraeg mewn llawysgrif sydd wedi goroesi i'w chael yn llyfr Sant Chad, a gedwir yn eglwys gadeiriol Caerlwytgoed (Lichfield). Gweithred gyfreithiol yw'r darn, a elwir yn gofnod surexit ar ôl y gair cyntaf o'r testun, ac a gopïwyd ar ddiwedd yr 8fed ganrif o weithred Gymraeg o'r 6ed ganrif. O'r ffynonellau hyn y tardd yr ychydig wybodaeth sydd gennym am Gymraeg Cynnar.

[golygu] Hen Gymraeg

Gelwir y cyfnod rhwng y 9fed ganrif a diwedd yr 11eg ganrif yn gyfnod Hen Gymraeg. Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau Lladin, o'r cyfnod hwn wedi goroesi. Mae rhai o'r llawysgrifau a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. Llyfr Llandaf (a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru), yr Annales Cambriae (cedwir un fersiwn o hwn yn y Public Record Office (PRO) a dau fersiwn yn y Llyfrgell Brydeinig) yn Llundain, a gwaith y Cynfeirdd.

Mae'r darnau ysgrifenedig hyn yn cynnig tystiolaeth o fath ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfnod hwn. Eto amwys yw'r dystiolaeth i raddau gan na wyddom ai synau'r Gymraeg sydd wedi newid ynteu'r ffordd y cyflëir y synau hyn ar bapur. Rhaid bod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o'r dystiolaeth ysgrifenedig prin. Yn y llawysgrifau ni cheir treiglad ar ddechrau gair byth, a phrin yw'r enghreifftiau o gyfnewidiadau seiniol yng nghanol neu ar ddiwedd gair, e.e. atar (adar), nimer (nifer), douceint (deugain), merc (merch), trucarauc (trugarog). Ceir gu ynghanol gair, sydd yn w-gytsain erbyn heddiw, e.e. petguar (pedwar). Fe dybir nad oedd y gyfundrefn dreigliadau ar ddechrau geiriau sydd gennym heddiw ddim eto wedi datblygu'n llawn yn y Gymraeg na'r cyfnewidiadau seiniol mewnol, megis t i d yn atar/adar, eto wedi eu cwblhau. Ond y mae'n bosib bod geiriau yn cael eu treiglo ar lafar ond mai'r ffurf gysefin yn unig a ysgrifennid, neu fod y ffordd o yngan y cytseiniaid wedi newid ers hynny. Digwydd oi neu ui lle yr yngenir wy heddiw, e.e. oith (wyth), troi (trwy), bloidin (blwyddyn), notuid (nodwydd). Ceir ou sydd heddiw'n eu neu au, e.e. hithou (hithau), nouodou (neuaddau). Nid oedd Hen Gymraeg eto wedi magu y ar flaen geiriau'n dechrau ag s a chytsain arall megis stebill (ystafell), strat (ystrad). Safle'r acen yn y Frythoneg oedd ar y sill cyn yr olaf. Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw'r sill olaf, fe fyddai’r acen ar y sill olaf o'r gair newydd, e.e. trīnĭtātem i trindáwd, a'r acen ar y sill olaf –áwd (dynoda ΄ safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r sill cyn olaf i roi tríndawd. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr aw oedd bellach yn ddiacen i o gan roi'r gair modern trindod. Ha a hac oedd ein ac a'n a ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).

[golygu] Cymraeg Canol

Gelwir y cyfnod rhwng y 12fed ganrif a diwedd y 14eg ganrif yn gyfnod Cymraeg Canol. Ymhlith y gweithiau a ysgrifenwyd mewn Cymraeg Canol mae'r Mabinogi, Cyfraith Hywel Dda, a barddoniaeth y Gogynfeirdd. Ceir tystiolaeth am ddatblygiad y Gymraeg yn rhyddiaith y cyfnod a hefyd yng ngwaith y Gogynfeirdd o'r adeg hon. Eto amwys yw peth o'r dystiolaeth hon, gan fod y Gogynfeirdd yn cadw at batrymau traddodiadol. Defnyddient gystrawen a geirfa hynafol. Gwelir hyn wrth gymharu eu hiaith â rhyddiaith y cyfnod. Yn ystod y cyfnod hwn y cafwyd benthyg termau o'r Ffrangeg a'r Lladin, yn rhannol gan fod cyfieithu gweithiau i'r Gymraeg yn dod yn gyffredin. Wedi'r cyfnod hwn y collwyd rhai o ffurfiau'r ferf a rhai o ffurfiau personol yr arddodiaid. Ceir y terfyniadau –wŷs, -ws, -es, ar gyfer trydydd person unigol yr amser gorffennol mewn Cymraeg Canol yn ogystal â'r ffurf –odd. Erbyn heddiw dim ond y terfyniad –odd a erys mewn Cymraeg ysgrifenedig safonol. Wedi dweud hynny mae'r ffurf -ws yn parhau ar lafar yn y De-ddwyrain. Erys y ffurf -as a ysgrifennid yn nechrau'r cyfnod diweddar ar lafar y De yn cas, yn golygu cafodd. Dengys hyn eto pa mor anodd yw hi i gyffredinoli ac i dynnu casgliadau am yr iaith lafar o'r dystiolaeth ysgrifenedig sy'n weddill i ni.

Erbyn heddiw trefn elfennau'r frawddeg seml Gymraeg yw berf yna goddrych yna gwrthrych. Ond hyd at yr Oesoedd Canol roedd hi hefyd yn bosib trefnu brawddeg seml trwy osod y goddrych yn gyntaf ac yna'r ferf ac wedyn y gwrthrych. Mae'n bosib bod hepgor y gystrawen hon wedi digwydd ar lafar ynghynt nag y digwyddodd mewn llenyddiaeth. Hyd at yr Oesoedd Canol gallasai'r ferf mewn brawddeg seml fod yn unigol neu'n lluosog o flaen goddrych lluosog. Erbyn heddiw dim ond trydydd person unigol berf a ddefnyddir mewn brawddeg seml heb fod â rhagenw personol yn oddrych iddi. Arferid 'cenynt gerddorion' yn ogystal â 'canai cerddorion' yn yr Oesoedd Canol ond erbyn hyn dim ond y ffurf 'canai cerddorion' a arferir.

[golygu] Cymraeg Modern Cynnar

Parhâi cyfnod Cymraeg Modern Cynnar o ddechrau'r 14eg hyd at ddiwedd y 16eg ganrif. Daeth newid cymharol sydyn i Gymraeg y beirdd wrth i Ddafydd ap Gwilym fabwysiadu ffurf newydd y cywydd a'i ysgrifennu yn yr iaith fyw yn y 14eg ganrif yn hytrach nag yn iaith geidwadol y Gogynfeirdd. Ond daeth tro ar fyd yn nes ymlaen yn y cyfnod hwn wrth i ryfel a dechrau lleihad yn nawdd yr uchelwyr i'r beirdd achosi dirywiad yn y gyfundrefn farddol a chymdeithasol. Yn yr Oesoedd Canol roedd y gyfundrefn farddol yn sicrhau rhywfaint o unoliaeth ar ffurf lenyddol y Gymraeg. Eto nid unffurf oedd y Gymraeg gan fod ysgolheigion sy'n astudio'r Oesoedd Canol yn gallu dirnad tarddiad daearyddol llawysgrif o'r amrywiadau tafodieithol a geir ynddi. Ond erbyn y 16eg ganrif, heb gyfundrefn gref i osod safon y gellid glynu wrtho, roedd yr amrywiadau lleol wedi amlhau gymaint fel bod rhai yn achwyn eu bod yn cael trafferth i ddeall ysgrifau cyfoes o ardal arall.

[golygu] Cymraeg Modern Diweddar

[6] Cyfrifir bod Cymraeg Modern Diweddar yn dechrau gyda chyfieithiad William Morgan o'r Beibl a gyhoeddwyd yn 1588 ac a ddiwygiwyd yn 1620. Defnyddiai William Morgan eirfa gyfoes lafar lle y medrai, gan fathu termau lle y byddai rhaid. Wrth fathu termau byddai'n benthyca o'r Hebraeg, Lladin neu'r Saesneg neu yn bathu gair cyfansawdd o elfennau symlach Cymraeg eu tarddiad megis gwrthglawdd, gwrthryfel, arogldarth, caethglud, cyntaf-anedic. Byddai'n defnyddio termau a fodolent yn ysgrifau crefyddol yr Oesoedd Canol hefyd ond yn osgoi'r termau hynny a fagodd gysylltiadau â'r Eglwys Gatholig a'r termau hynny oedd wedi eu disodli gan derm arall. Amcan ei ddewis o eirfa oedd eglurder ystyr. Defnyddiai briod-ddulliau urddasol. Weithiau byddai'n cyfieithu priod-ddull Hebraeg air am air. Bryd arall ceisiai gadw naws delynegol barddoniaeth y gwreiddiol drwy ddefnyddio ffurfiau a arferid yn y cywyddau Cymraeg. Defnyddiai ffurf 'annormal' y frawddeg (patrwm goddrych neu wrthrych neu adferf + geiryn perthynol + berf, megis yn 'A Duw a alwodd y goleuni yn ddydd') a gydymffurfiai â phatrwm 'gramadeg' Lladinaidd a ystyrid yn yr oes honno yn ffurf well na ffurf 'normal' y frawddeg a geid ar lafar. Roedd rhai agweddau ar Gymraeg William Morgan felly yn hen ffasiwn. Gan i'r Beibl hwn gael ei dderbyn ym mhob cwr o Gymru bu'n fodd i angori'r Gymraeg llenyddol ac arafu ei datblygiad. Trwy ddolen gyswllt Beibl 1588 mae modd i siaradwyr Cymraeg modern ddeall barddoniaeth Cymraeg Canol ond iddynt gael gwybod ystyr rhai geiriau nas arferir rhagor neu sydd wedi newid eu hystyr.

Ar yr un pryd cafwyd adennill unoliaeth y Gymraeg llenyddol a symleiddio eto ar ffurfiau'r ferf a'r arddodiaid a safoni'r patrymau treiglo. Roedd modd i'r rhai a ddefnyddient iaith Beibl William Morgan ddeall ei gilydd ar draws Cymru gyfan, o leiaf ar bapur. Beibl William Morgan fyddai defnydd pennaf ysgolion cylchynol y 18fed ganrif a ddaeth â llythrennedd i drwch gwerin Cymru.

[golygu] Perthynas Cymraeg ysgrifenedig a Chymraeg llafar

[4] Gan fod datblygiad Cymraeg Modern ysgrifenedig yn lled araf mae gagendor eang wedi codi rhyngddi a Chymraeg llafar. Yn wir mae rhai o'r gwahaniaethau rhwng yr ysgrifenedig a'r llafar yn hen iawn. Ysgrifennir ffurf trydydd person lluosog y ferf yn –ant ond fe'i hyngenir yn –ân. Dengys barddoniaeth y 12fed ganrif, lle yr odlid geiriau'n diweddu ag –ant gyda rhai yn diweddu ag –ân, bod y gwahaniaeth hwn eisoes yn bodoli'r pryd hynny. Dim ond yn ddiweddar y cydnabuwyd llawer o'r newidiadau yn yr iaith lafar yn y Gymraeg ysgrifenedig newydd a elwir yn Gymraeg Cyfoes.

Ceir enghreifftiau eraill o newidiadau mewn priod-ddulliau Cymraeg yn ystod oes y Gymraeg Modern megis:

Priod-ddull y gorffennol Priod-ddull cyfoes
Metha gennyf fynd Methaf fynd, rwy’n methu mynd
Bath ar, newidiodd i math ar       Math o
Arfer o fynd ar ffrind Arfer mynd at ffrind
Dyfod arno Dyfod ato

Yn y 19eg ganrif dyfeisiwyd system ddegol ar gyfer y rhifolion (ond nid y trefnolion). [7] Ond er i'r system newydd gael derbyniad ni ddiflannodd yr hen drefn rhifolion ugeiniol. Defnyddir y naill system a'r llall fel ei gilydd ar lafar ac ar bapur byth oddi ar hynny.

Mae'r Gymraeg wedi benthyca geiriau o'r Saesneg ers dyfodiad y Saeson i Loegr. Ond ers twf dwyieithrwydd yng Nghymru mae dylanwad y Saesneg wedi dwysáu, ac mae llu o eiriau a phriod-ddulliau Saesneg wedi ymddangos yn y Gymraeg.

Mae'r newidiadau i'r Gymraeg yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf wedi bod yn mynd ar garlam, a llu o eiriau newydd yn cael eu bathu wrth i'r Gymraeg ehangu ei defnydd i feysydd sydd wedi bod yn anghyfarwydd iddi ers rhai canrifoedd. Mae ei phriod-ddulliau hefyd yn newid yn gyflymach ar hyn o bryd nag y maent wedi gwneud ers oesoedd. Trafodir y newidiadau hyn gan Dafydd Glyn Jones yn ei ddarlith Dal y Geiriau Ynghyd.

[golygu] Benthyciadau o ieithoedd eraill

Mae'r Gymraeg, fel ieithoedd eraill y byd, yn benthyca geirfa o ieithoedd eraill. Benthyciwyd i'r Gymraeg o'r Lladin, y Wyddeleg, y Ffrangeg, a'r Saesneg yn bennaf. Ceir rhai geiriau Cymraeg yn tarddu o'r Hen Norseg, y Roeg, a'r Hebraeg. Ar hyn o bryd, o'r Saesneg y benthycir fwyaf, ac o ieithoedd eraill y byd trwy'r Saesneg.


[golygu] Gramadeg y Gymraeg

Prif erthygl: Gramadeg y Gymraeg


[golygu] Cymraeg ysgrifenedig

Prif erthygl: Cymraeg ysgrifenedig


[golygu] Tafodieithoedd ac iaith lafar

Prif erthygl: Cymraeg llafar


[golygu] Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg

Canran siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru yn ôl cyfrifiad 2001.
Canran siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru yn ôl cyfrifiad 2001.

Credir bod tua 90% o boblogaeth Cymry yn Gymry Cymraeg ar ddechrau'r 19eg ganrif a rhyw 70% yn Gymry uniaith. Erbyn 2001 rhyw 20.5% a siaradai Gymraeg, sef rhyw 580,000 o bobl yn ôl y cyfrifiad, a nemor neb yn Gymry uniaith.

[golygu] Y Wladfa

Mae cymuned fechan o ddisgynyddion i Gymry Cymraeg wedi goroesi yn Y Wladfa, ym Mhatagonia, yr Ariannin. Siaradir Cymraeg ym Mhatagonia er 1865 pan aeth grŵp o ymsefydlwyr o Gymry yno i fyw, gan chwilio am fywyd gwell.

[golygu] Diwylliant Cymraeg

Adeg twf yr eglwysi anghydffurfiol yn ystod y 19eg ganrif, daethant yn ganolbwynt bywyd Cymraeg. Ymysg y llu o weithgareddau cymdeithasol a drefnwyd gan y capeli ceid eisteddfodau, corau a theithiau gwib. Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd poblogaeth ddiwydiannol ag arian yn eu pocedi nawr yn gallu talu am adloniant. Darparwyd difyrrwch ar gyfer unigolion gan fusnesau, yn theatr, yn drefi gwyliau, ac yna'n ffilm, radio a theledu. Tanseiliwyd lle'r eglwysi Cymraeg wrth wraidd cymdeithas gan yr adloniant newydd hudolus. Ers dechrau'r ugeinfed ganrif cyrhaeddai diwylliant Eingl-Americanaidd pob cwr o'r ddaear trwy ffilm, radio a theledu gan gystadlu ag adloniant a diwylliant traddodiadol y cartref a'r gymuned leol.

Sefydlwyd rhai mudiadau cenedlaethol Cymraeg eu cyfrwng yn ystod yr 20fed ganrif, sydd i raddau yn llenwi'r bwlch a adawyd wrth i weithgaredd cymdeithasol yr eglwysi ddihoeni. Mudiad yr Urdd a ffurfiwyd yn 1922 yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae Merched y Wawr a'r Ffermwyr Ifainc hefyd yn fudiadau o bwys yn cynnal gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir nifer o fudiadau cenedlaethol eraill Cymraeg megis Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, Cymdeithas Edward Llwyd, a'r Gymdeithas Wyddonol. Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1751 gan Forisiaid Môn yn gymdeithas lenyddol i amddiffyn y Gymraeg.

[golygu] Eisteddfodau

Mae gan eisteddfodau le canolog yn niwylliant Cymru a'r Gymraeg. Wedi nychdod yr hen gyfundrefn eisteddfodol yn y canrifoedd wedi'r Ddeddf Uno adnewyddwyd yr eisteddfod gyda chyfarfodydd taleithiol yn ystod y 19eg ganrif. Sefydlwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1860'au ond defnyddiwyd mwy a mwy o Saesneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda threigl y blynyddoedd. Erbyn 1931 Saesneg oedd prif iaith y llwyfan, y beirniadaethau a seremonïau gorsedd y Beirdd, sefyllfa annerbyniol i lawer. Gwnaethpwyd y Gymraeg yn iaith swyddogol yr Eisteddfod yn 1937 ond parhau gwnaeth y defnydd o'r Saesneg ar lwyfan yr eisteddfod hyd at 1952 pan gyflwynwyd y Rheol Gymraeg yn caniatáu defnyddio'r Gymraeg yn unig ar lwyfan yr Eisteddfod (heblaw mewn rhai anerchiadau gan westeion gwadd). Mae'r Rheol Gymraeg hithau'n bwnc llosg sydd wedi peri i rai awdurdodau lleol atal eu cyfraniad ariannol tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Beirniedir yr Eisteddfod Genedlaethol am safon anwastad i'r llenyddiaeth a wobrwyir. Ar y llaw arall clodforir yr Eisteddfod am ei fod yn ŵyl ddiwylliannol i'r werin, am roi llwyfan genedlaethol i artistiaid, am feithrin barddoni, ac am hybu dysgu Cymraeg.

Trefnir eisteddfodau gan gymdeithasau megis yr Urdd, Mudiad y Ffermwyr Ifainc, ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Cynhelir rhai eisteddfodau taleithiol o hyd, megis eisteddfod Pontrhydfendigaid ac ambell i eisteddfod drefol neu bentrefol, ond nid oes cymaint o fri ar y rhain ag a fu ac nid yw'r capeli'n trefnu eisteddfodau fel ag y buont ychwaith.

[golygu] Llenyddiaeth Gymraeg

Prif erthygl: Llenyddiaeth Gymraeg

[golygu] Llyfrau printiedig Cymraeg

Cafwyd cyhoeddi llyfrau printiedig Cymraeg yn gynnar o'i gymharu â llawer o ieithoedd eraill Ewrop nad oeddent yn ieithoedd y wladwriaeth. [2] Ychydig o lyfrau a gâi eu cyhoeddi, cyfanswm o 116 rhwng 1546 a 1670. Crefydd oedd pwnc y mwyafrif o'r llyfrau hyn. Yna tyfodd nifer y llyfrau a gyhoeddwyd i gyfartaledd o 4 y flwyddyn rhwng 1670 a 1700 a 14 y flwyddyn rhwng 1700 a 1730, yn rhannol trwy nawdd y Welsh Trust a'r SPCK. Erbyn y 18fed ganrif roedd pris llyfr wedi disgyn yn sylweddol, ac o fewn cyrraedd y werin. Ym mhlith y llyfrau a gyhoeddwyd yr oedd rhai o glasuron y dadeni dysg a llenyddiaeth grefyddol Cymru: Cannwyll y Cymry gan y Ficer Prichard (1681) a Gweledigaetheu y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne (1703). Yr oedd y twf mawr mewn llythrennedd yn ystod y 18fed ganrif yn esgor ar dwf yn y galw am lyfrau o bob math, yng Nghymru fel ag yn Lloegr. Sefydlwyd argraffdai yma ac acw yng Nghymru i gyflenwi'r farchnad newydd am lyfrau. Cyhoeddwyd dros 2,500 o lyfrau Cymraeg yn ystod y 18fed ganrif.

Heddiw cyhoeddir 500-600 llyfr Cymraeg yn flynyddol, llawer ohonynt yn llyfrau i blant. Ymysg y cyhoeddwyr pennaf mae Gwasg Gomer, Gwasg Prifysgol Cymru a'r Lolfa (rhestr gyflawn o gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg). Ariennir cyhoeddi llawer o lyfrau Cymraeg a Chymreig gan y llywodraeth trwy Gyngor Llyfrau Cymru a sefydlwyd fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg yn 1961. Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn dosbarthu llyfrau Cymraeg a Chymreig.

Ceir casgliad helaeth o lawysgrifau, cyfnodolion a llyfrau Cymraeg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o swyddogaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw rhoi ar gadw copi o bob llyfr gaiff ei gyhoeddi ym Mhrydain. Yn ogystal â deunydd ar bapur cesglir yno ddeunydd ar gyfryngau sain a llun.

[golygu] Llenyddiaeth am y Gymraeg

Fel ag a soniwyd eisoes mae'r Gymraeg wedi bod yn elfen flaenllaw yn yr ymwybyddiaeth o'r hunaniaeth Gymreig. Y mae'r ymwybyddiaeth yma'n treiddio gwaith llenorion Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Efallai mai'r man amlycaf y crybwyllir y Gymraeg yw yn yr anthem genedlaethol 'Hen Wlad fy Nhadau': 'a bydded i'r heniaith barhau.' Y mae'r Gymraeg, Cymreictod a cholli iaith yn thema i nifer o weithiau llenyddol. Ymhlith y mwyaf amlwg o'r rhain mae nofel Islwyn Ffowc Elis Wythnos yng Nghymru Fydd, a cherddi Gerallt Lloyd Owen gan gynnwys 'Etifeddiaeth', cerdd Gwyneth Lewis Y Llofrudd Iaith, cerddi Jac Glan-y-gors 'Dic Siôn Dafydd', a cherddi Waldo Williams 'Yr Heniaith' a 'Cymru a Chymraeg'. Dylid hefyd grybwyll cerdd arall gan Waldo Williams, 'Cofio', sy'n alarnad i ieithoedd a phobloedd golledig y ddaear gyfan.

Yn ogystal â cherddi moliant i'r Gymraeg neu weithiau yn galaru amdani neu'n ymgyrchu trosti ceir hefyd gweithiau yn mynegi'r profiad o fod yn Gymro Cymraeg. Mae'r profiad hwn yn annatod glwm wrth ddylanwad cenedligrwydd, cenedlaetholdeb, galar, y cymhlyg israddoldeb, rhamant y gorffennol, gwawd y Sais, yr ymgecru ymysg y Cymry, y perthyn i draddodiad hir a gwerthfawr, a'r perthyn i fro. [8]

Ceir ymateb cymhleth i'r Gymraeg a'r ymwybyddiaeth o Gymreictod hefyd yng ngweithiau rhai llenorion Cymreig yn ysgrifennu yn Saesneg yn enwedig o'r 1930au ymlaen. Yn eu plith mae gweithiau Caradog Evans, Cymro Cymraeg, megis My People, gweithiau R. S. Thomas a ddysgodd Gymraeg (megis 'Reservoirs' yn ei Collected Poems 1945-1990), a Gwyn Thomas, yn Gymro di-Gymraeg o'r union genhedlaeth na fagwyd yn Gymry Cymraeg. Rhoddwyd mynegiant am y tro cyntaf i ymdeimlad o Gymreictod di-Gymraeg gan rai o'r llenorion hyn. Ffenomenon yn perthyn i Gymru'r 20fed ganrif yw'r diwylliant Cymreig di-Gymraeg a dyfodd yn sgil y mewnlifiad mawr i'r cymoedd diwydiannol yn ystod y ddau ddegawd cyntaf o'r ganrif. Diddorol sylwi bod T Llew Jones, a hanai o'r un ardal â Caradoc Evans, wedi galw ei hunangofiant o fwriad yn Fy Mhobol I ; ynddo mae'n trafod Caradoc Evans, yn ymateb i ymateb Evans i'r Gymraeg fel petai.

Er mai digon gelyniaethus oedd rhai o'r llenorion Cymraeg a Saesneg ar ddechrau'r 20fed ganrif, erbyn diwedd y ganrif cymodi yn hytrach nag ymgecru oedd fwyaf amlwg. Llwyddwyd i gyhoeddi casgliad o farddoniaeth yn The Oxford Book of Welsh Verse in English yn 1977 a gynhwysai gerddi Saesneg a cherddi a gyfieithwyd o'r Gymraeg mewn un gyfrol. Yn 1986 cyhoeddwyd Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru ar y cyd â The Oxford Companion to the Literature of Wales. Erbyn hyn ceir nifer o gyfrolau a gyhoeddir yn Saesneg a Chymraeg ar y cyd, megis llyfrau yn adrodd hanes bro neu'n dathlu digwyddiad hanesyddol.

[golygu] Celfyddydau eraill

Prif erthyglau: Y theatr Gymraeg a Ffilm Gymraeg

[golygu] Cymraeg a'r cyfryngau

Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddent aelwydydd Prydain gyfan, ar agwedd ac arferion gwrandawyr a gwylwyr. [9]

Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus.

[golygu] Papurau newydd

Prif erthygl: Papurau newydd Cymraeg

Yn ystod y 19eg ganrif tyfodd diwydiant papur newydd ffyniannus yng Nghymru. Erbyn 20au a 30au'r 20fed ganrif, fodd bynnag, roedd y farchnad papurau newydd drwy Brydain yn canoli fwyfwy dan bwysau'r farchnad a nifer y teitlau papur newydd yn disgyn. Peidiodd Y Darian ym 1934, traflyncwyd Y Genedl Gymreig gan gwmni'r Herald ym 1932, a pheidiodd Y Faner ym 1992.

Heddiw mae nifer o bapurau a chylchgronau Cymraeg wythnosol neu fisol ar gael megis Golwg, Y Cymro a Barn ond dim un papur dyddiol. Noddir nifer o gylchgronau arbenigol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Erbyn heddiw mae'r galw am newyddion lleol trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddiwallu gan y papurau bro. Mae'r papurau bro yn aelodau o'r Gymdeithas Papurau Bro, ac yn derbyn nawdd o'r llywodraeth i ariannu'r papurau hyn.

[golygu] Radio

Prif erthygl: Darlledu yn Gymraeg ar y radio

[golygu] Teledu

Prif erthygl: S4C

[golygu] Cymraeg ar y we

Yn sgil goblygiadau Deddf Iaith 1993 mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn cynhyrchu safleoedd gwe dwyieithog. Y sector gyhoeddus yw'r sector sy'n cynhyrchu'r mwyafrif llethol o dudalennau Cymraeg ar y we. Mae rhai busnesau a chymdeithasau, yn enwedig y rhai mawrion a'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg hefyd yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog, yn ôl eu polisi iaith unigol eu hunain. Ceir rhai unigolion hefyd yn cynhyrchu tudalennau Cymraeg ar y we. Ceir siopau siarad Cymraeg ar y we (maes-e er enghraifft) gan gynnwys siopau siarad ar gyfer dysgwyr. Gyda thwf diweddar blogiau mae rhai blogiau Cymraeg hefyd wedi ymddangos.


[golygu] Cymhariaeth ag ieithoedd Celtaidd eraill

Bu i'r ieithoedd Brythoneg ddechrau ymwahanu pan dorrwyd eu hundod daearyddol gan fewnlifiad y Saeson. Torrwyd y cysylltiad rhwng Cymru a Chernyw yn ystod y ganrif a ddilynodd buddugoliaeth y Saeson ym mrwydr Dyrham yn 577. Datblygodd y Gernyweg a'r Gymraeg ar wahân. Ymfudodd carfannau o dde Lloegr i Lydaw ar wahanol adegau. Ymwahanodd eu hiaith hwythau oddi wrth y Frythoneg neu'r Gernyweg gan esgor ar Lydaweg. Torrwyd y cysylltiad â'r Hen Ogledd pan yr ymestynnodd brenhiniaeth Northumbria hyd at yr arfordir gorllewinol, tua chanol y 7fed ganrif. Datblygodd iaith Cumbria ar wahân i'r Gymraeg tan iddi golli'r dydd i'r Saesneg rhywbryd wedi goresgyniad tywysogaethau'r Hen Ogledd.

Nid ysgrifennwyd y Gernyweg na'r Llydaweg cyn gynhared â'r Gymraeg ac ni chafwyd cyhoeddi Beiblau yn eu hieithoedd nac esgor ar wasg argraffu llyfrau cyn gynhared ag yng Nghymru (yn 1827 yr ymddangosodd y Testament Newydd yn Llydaweg). Diflannu bu tynged y Gernyweg erbyn diwedd y 18fed ganrif ond bod adfywiad wedi digwydd yn hanner olaf yr 20fed ganrif ymhlith rhai sy'n frwdfrydig dros yr iaith. Amcangyfrifir bod rhyw 1,400,000 o siaradwyr Llydaweg yn bod ar ddechrau'r 20fed ganrif, rhyw 900,000 ohonynt yn siaradwyr Llydaweg uniaith, ond erbyn heddiw prinnach o lawer yw'r siaradwyr Llydaweg, yn enwedig ymysg yr ifainc. Mae'r rhesymau am y dirywiad yn cynnwys polisïau llawdrwm llywodraeth Ffrainc, yn enwedig wedi'r ail ryfel byd yn sgil sefydlu rhai ysgolion Llydaweg eu cyfrwng am y tro cyntaf erioed o dan nawdd y Natsïaid. Dim ond yn ddiweddar y mae'r llywodraeth wedi llunio polisïau caredicach at y Llydaweg a'r ieithoedd eraill llai eu defnydd ond hirhoedlog o fewn ffiniau Ffrainc.

[golygu] Gweler Hefyd


Ieithoedd Celtaidd
Celteg
Brythoneg
(P-Celteg)
Goideleg
(Q-Celteg)
Llydaweg · Cernyweg · Cymraeg | Gwyddeleg · Manaweg · Gaeleg yr Alban
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd


[golygu] Ffynonellau a throednodion

Cyfeiria'r troednodion ar ddechrau adran at brif ffynonellau'r adran honno.

  1. Mae arwydd ffordd dwyieithog yn Lloegr hefyd - ger y Waun mae pont ar draws yr afon Ceiriog, gydag arwyddion "weak bridge / pont wan" ar y deutu, er bod yr afon yn leoliad y goror.
  2. 2.0 2.1 John Davies, Hanes Cymru (The Penguin Press, 1990)
  3. Nid oes neb yn siŵr a siaradai'r Pictiaid iaith cyn-Gelteg ynteu Gelteg. Erbyn hyn dadleua mwyafrif yr ysgolheigion mai iaith Gelteg a siaradai'r Pictiaid.
  4. 4.0 4.1 4.2 Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Prifysgol Cymru, 1931)
  5. Yn ystod y 19eg ganrif dechreuwyd astudio hanes datblygiad ieithoedd a'r perthynas rhyngddynt. Defnyddiwyd y dystiolaeth ysgrifenedig oedd ar gael a'i gymharu ag ieithoedd eraill yn dyddio o'r un adeg hanesyddol a dilyn hynt iaith ar hyd yr oesau. O ddeall patrymau newid ieithyddol mae modd ail-lunio ieithoedd diflanedig. Technegau ieitheg gymharol, yn adeiladu ar dystiolaeth enwau llefydd a phobl Brythonig ac ambell i enw cyffredin a gofnodwyd yn Lladin neu yng Ngroeg, sydd wedi galluogi ieithyddion i ddirnad peth o eirfa a gramadeg y Frythoneg.
  6. Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Prifysgol Cymru, 1988)
  7. Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 2006)
  8. R. M. Jones, Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
  9. Eu Hiaith a Gadwant? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif, goln R Geraint Jenkins a Mari A. Williams (Prifysgol Cymru, 2000)

[golygu] Llyfryddiaeth

[golygu] Cyffredinol

Yn ogystal â'r ffynonellau uchod

  • H Pedersen, Vergleichende Grammatik dêr keltischen Sprachen, 1909-1913, (yn Almaeneg)
  • Henry Lewis & Holger Pedersen, A Concise Comparitive Celtic Grammar (1937)
  • Canu Heledd – testun a nodiadau Canu Llywarch Hen, Gol. Ifor Williams (1935)
  • Ifor Williams, Y Gododdin: testun a thrafodaeth ragarweiniol Canu Aneirin, (1938)
  • Glyn Jones, The Dragon Has Two Tongues (1968) sy'n trafod gwaith a hanes yr awduron Eingl-*Gymreig yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif.
  • Llyfryddiaeth yr Iaith Gymraeg, JE Caerwyn Williams (gol), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)

[golygu] Gramadegau

  • Syr John Morris-Jones, A Welsh Grammar, (1913) – a osododd sylfaen i'r astudiaeth fodern ar y Gymraeg, er na dderbynnir pob peth ynddo erbyn hyn.
  • Stephen J Williams, Elfennau Gramadeg Cymraeg, (1959)
  • Morgan D Jones, Cywiriadur Cymraeg (1965)
  • Melvill Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (1970)
  • Cyflwyno'r Iaith Lenyddol, (1978) - yn trafod y gwahaniaethau rhwng Cymraeg cyfoes a Chymraeg llenyddol.
  • Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)

[golygu] Geiriaduron

  • Geiriadur Prifysgol Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1950 – 2002) - y geiriadur hanesyddol safonol. Gellir gweld gwaith mewn llaw ar yr Ail Argraffiad, gan gynnwys fersiwn ar lein syml yn http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/gpc_pdfs.htm
  • Geiriadur yr Academi, goln. Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones, (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003) – geiriadur Saesneg – Cymraeg
  • Y Termiadur: Termau wedi'u safoni, goln Delyth Prys, JPM Jones ac eraill (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, 2006) -
  • Cysgliad (ar gryno ddisg) (Canolfan Bedwyr, 2003) sy'n cynnwys rhaglen gwirio gramadeg a nifer o dermiaduron na cheir ar bapur rhagor megis Y Termiadur Ysgol: Termau wedi'u Safoni ar gyfer Ysgolion Cymru, goln Delyth Prys a JPM Jones (1998)
  • D. Geraint Lewis, Geiriadur Gomer i'r Ifanc (Gwasg Gomer, 1994) – geiriadur Cymraeg – Cymraeg
  • Y Geiriadur Mawr, goln HM Evans a WO Thomas (Gwasg Gomer, 2003) - geiriadur Cymraeg - Saesneg a Saesneg - Cymraeg mewn un gyfrol
  • Collins Spurrell Welsh Dictionary (HarperCollins, 1991)
  • geiriadur ar wefan y BBC - mae hwn yn cynnig geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg a hefyd treigladur syml sy'n gwirio treiglad enw+ansoddair
  • William Salesbury, A Dictionary in Englyshe and Welshe (1547)
  • Daniel Silvan Evans, An English and Welsh Dictionary, (1852-8)


[golygu] Idiomau a Diarhebion Cymraeg

  • Cennard Davies, Lluniau Llafar (1980)
  • Cennard Davies, Y Geiriau Bach (1998)
  • Cennard Davies, Torri'r Garw (1996)
  • Geiriadur Idiomau, goln A.R. Cownie ac Wyn G. Roberts (2001)
  • C.P. Cule, Cymraeg Idiomatig, (1971)
  • R.E. Jones, Idiomau Cymraeg: y Llyfr Cyntaf 1987, (Tŷ John Penri, 1987)
  • RE Jones, Ail Lyfr o Idiomau Cymraeg, (Tŷ John Penri, 1997)
  • J J Evans, Diarhebion Cymraeg (1965) - gyda chyfieithiadau i'r Saesneg
  • William Hay, Diarhebion Cymru (1955)
  • Mary William, Dawn Ymadrodd (1978)


[golygu] Dysgu Cymraeg

  • rhan o wefan ELWA yn rhoi gwybodaeth am ddysgu Cymraeg
  • Acen - yn cynnig defnyddiau amlgyfrwng ar gyfer dysgwyr
  • Y Gwybodiadur – casgliad o adnoddau Cymraeg a dysgu Cymraeg
  • Clwb Malu Cachu - gwefan adnoddau i ddysgwyr
  • Gramadeg Cymraeg Cyfoes (2005)

Static Wikipedia (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu

Static Wikipedia February 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu