A487
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae'r A487 yn un o brif ffyrdd Cymru sy'n cysylltu'r De a'r Gogledd, yn yr achos hwn ar hyd yr arfordir gorllewinol.
Cychwynna'r ffordd o Hwlffordd i Dyddewi, lle mae'n troi i fynd ymlaen at Abergwaun. Ffordd sirol oedd hi cyn hyn, wedyn daw yn gefnffordd am weddill y llwybr. Mae'r ffordd yn dilyn yr arfordir yn bennaf ar ben clogwyni gorllewin Cymru, trwy Aberaeron ac Aberteifi at Aberystwyth, lle mae ffordd osgoi canol y dref. Â ymlaen at Fachynlleth, ac wedi crosi Afon Dyfi, mae'n roi'r gorau i ddilyn yr arfodir mor agos.
Wedi pasio Pantperthog, Corris a Chorris Uchaf mae'n cyrraedd y Cross Foxes, lle mae'n ymuno â'r A470. Mae'r ffyrdd yn gwahanu eto ar ôl Trawsfynydd, gyda'r A487 yn mynd ymlaen i Benrhyndeudraeth ac ar draws Cob Y Traeth Mawr (adeiladwyd gan William Alexander Madocks) a thros Afon Glaslyn i Borthmadog a Thremadog. Mae ffordd osgoi newydd heibio Llanllyfni a Phenygroes cyn cyrraedd Caernarfon, ffordd osgoi Y Felinheli, ac ymuno â'r A5 wrth droed Pont y Borth.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.