Y Felinheli
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y Felinheli Gwynedd |
|
Mae'r Felinheli yn bentref ar lan Y Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon yng Ngogledd Cymru. Mae'r boblogaeth oddeutu 2,000.
Yn ôl cyfrifiad 2001, mae canran y siaradwyr Cymraeg yn 72%, gyda'r canran fwyaf yn yr oedran 5-9 mlwydd oed, sef 97.8%. Mae cymdeithas Gymraeg gref yma, gyda'r rhan fwyaf o weithgareddau'r pentref yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Datblygodd yn wreiddiol fel porthladd yn cludo llechi o chwarel Dinorwig, ac yn sgil hynny, fe fagwyd yr enw 'Port Dinorwic', ond nid yw'r enw'n cael ei ddefnyddio bellach mewn unrhyw gylch. Cysylltwyd y chwarel i'r pentref gan rheilffordd Padarn.
Mae'r gymuned cwchio a hwylio yn y pentref yn un fawr. Mae gan y pentref angorfeydd, marina ac i ychwanegu at hynny, mae gan Y Felinheli busnesau morwrol o bob math; mae'r rhain yn cynnwys busnesau taclu, creuwyr hwyliau a buarth cychod. Y mae gan y pentref hefyd rywfaint o dai haf. Prysur a bywiog yw'r clwb hwylio hefyd, gyda chystadlaethau dingis yn cael eu cynnal ar brynhawniau Sadwrn, Mercher a nosweithiau Wener.
Adeiladwyd ffordd osgoi ym mlynyddoedd 1993/'94, ac yn sgil hynny, mae wedi lleihau'r traffig â ordyrai'r stryd fawr am flynyddoedd maith.