Abercastell
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Abercastell yn bentref bychan ar fae Cwm Badau, ar arfordir Sir Benfro hanner ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun.
Dim ond ychydig o dai sydd yno heddiw, ond bu'n harbwr bach digon prysur yn 1566. Yn ôl yr hynafiaethydd Richard Fenton, hwyliai llongau bach yn ôl ac ymlaen rhwng Abercastell a Bryste ar ddechrau'r 19eg ganrif, yn cludo menyn ac ŷd ar eu ffordd allan ac yn cludo nwyddau cyffredinol ar eu ffordd yn ôl. Yn ddiweddarach ceirch a allforid a glo carreg (anthracite) a fewnforid. Llosgid calch yn yr hen odyn sydd i'w weld yn yr harbwr o hyd.
Hanner milltir o'r pentref mae Carreg Samson, un o'r cromlechi gorau yng Nghymru. Dywedir fod bys Samson wedi'i gladdu ar Ynys-y-castell ger yr harbwr.
Ar y 15 Mehefin 1876 glaniodd Alfred Johnson yn Abercastell yn ei gwch 20 troedfedd y Centennial ar ôl hwylio ar ben ei hun yr holl ffordd dros Fôr Iwerydd, y dyn cyntaf i gyflawni'r gamp honno.