Carreg Samson
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cromlech ger Abercastell ar arfordir Sir Benfro, hanner ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun, yw Carreg Samson.
Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r de o bentref bach Abercastell, mewn cae sy'n perthyn i fferm Tŷ Hir, nepell o lan y môr. Mae ei sefyllfa'n drawiadol gyda golygfa braf i gyfeiriad Pen Strwmbl.
Siambr gladdu â'r pridd a'i gorchuddiasai wedi'i erydu i ffwrdd dros y canrifoedd ydyw, fel pob cromlech arall. Tybir ei bod yn dyddio o Oes yr Efydd. Mae hyd y garreg glo (capstone) anferth yn 15 troedfedd (5.2m) a'i lled yn 9 troedfedd (2.7m). Mae'n gorwedd ar chwech maen cynhaliol (dim ond tri ohonyn' nhw sy'n ei chynnal heddiw) ag un ohonyn nhw yn gorwedd ar ei hyd gerllaw. Roedd y siambr o siâp amlonglog yn wreiddiol.
Yn ôl traddodiad y sant Samson a roddodd y garreg glo yn ei lle gan ddefnyddio ei fys bach yn unig. Dywedir ymhellach fod y bys hwnnw wedi'i gladdu mewn bedd arbennig ar Ynys-y-castell, ynys fechan sy'n gwarchod y fynedfa i harwbr Abercastell.