Aberhonddu
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Aberhonddu Powys |
|
Mae Aberhonddu yn dref ym Mhowys, Cymru, sy'n cymryd ei henw oddi ar aber Afon Honddu ag Afon Wysg. Yng nghanol y dre mae'r ddwy afon yn uno, ac mae Afon Tarrell hefyd yn llifo i mewn i Wysg gerllaw.
Ceir eglwys gadeiriol fechan ond diddorol yn Aberhonddu. Priordy a sefydlwyd gan y Normaniaid yn yr 11eg ganrif oedd hi i ddechrau. Fe'i gwnaed yn eglwys gadeiriol yn 1923 wrth greu esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.
Yma cafodd Sarah Siddons, Charles Kemble, John Lloyd (bardd), Jane Cave a Walter Churchey eu geni.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ymwelodd Gerallt Gymro ag Aberhonddu yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Adeiladodd yr arglwydd o Normaniad Bernard de Neufmarche gastell yma ar ddiwedd yr 11eg ganrif.
[golygu] Enwogion
- Jane Cave
- Walter Churchey
- Sarah Siddons
- Charles Kemble
- John Lloyd
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberhonddu ym 1889. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889
[golygu] Gefeilldrefi
|
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Powys |
Aberhonddu | Crucywel | Y Drenewydd | Y Gelli Gandryll | Llanandras | Llandrindod | Llanfair-ym-Muallt | Llanfyllin | Llanidloes | Llanwrtyd | Machynlleth | Rhaeadr Gwy | Talgarth | Y Trallwng | Trefaldwyn | Trefyclawdd | Ystradgynlais |