Afon Aled
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Aled yn afon fechan yng ngogledd Cymru sy'n rhedeg i mewn i Afon Elwy.
Mae Afon Aled yn tarddu yn Llyn Aled ar Fynydd Hiraethog ychydig i'r de o bentref Llansannan. Mae'n llifo trwy Llyn Aled Isaf ac yna tua'r gogledd trwy Llansannan a Bryn Rhyd-yr-arian cyn cyfarfod Afon Elwy ychydig i'r dwyrain o bentref Llanfairtalhaiarn.
Rheolir llif Afon Aled, a thrwy hynny i raddau Afon Elwy hefyd, gan gronfeydd Llyn Aled a Llyn Aled Isaf.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.