Afon Mekong
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Mae Afon Mekong yn afon fawr yn ne-ddwyrain Asia ac un o'r rhai fwyaf ar gyfandir Asia. Ei hyd yw tua 4025 km (tua 2500 milltir). Mae'n agored i longau a chychod am tua 550 km (340 milltir) o'i hyd.
Cyfyd Afon Mekong yn Tibet. Mae'n llifo ar gwrs de-ddwyreiniol yn bennaf trwy Tsieina, Laos, Cambodia a Fiet Nam cyn aberu ym Môr De Tsieina.
Mae'r delta eang yn un o'r ardaloedd pwysicaf yn Asia i gyd am dyfu reis.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.