Laos
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Heddwch, Annibyniaeth, Democratiaeth, Undod a Ffyniant | |||||
Anthem: Pheng Xat Lao | |||||
Prifddinas | Vientiane | ||||
Dinas fwyaf | Vientiane | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Lao | ||||
Llywodraeth
- Arlywydd
- Prif Weinidog |
Gweriniaeth Sosialaidd Choummaly Sayasone Bouasone Bouphavanh |
||||
Annibyniaeth - Dyddiad |
oddiwrth Ffrainc 19 Gorffennaf 1949 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
236,800 km² (83ain) 2 |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2005 - cyfrifiad 1995 - Dwysedd |
5,924,000 (103ydd) 4,574,848 25/km² (177ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2005 $12.547 biliwn (129ain) $2,124 (138ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2005) | 0.545 (133ain) – canolig | ||||
Arian breiniol | Kip (LAK ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC+7) (UTC+7) |
||||
Côd ISO y wlad | .la | ||||
Côd ffôn | +856 |
Gwladwriaeth gomiwnyddol weriniaethol sosialaidd yw Laos, neu Weriniaeth Ddemocrataidd y Bobl Lao. Y prifddinas yw Vientiane.
Gwlad nad yw'n ffinio â'r un môr ydyw er ei bod yn ffinio â Myanmar (Byrma) a Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd-orllewin, Fietnam i'r dwyrain, Cambodia i'r de a Gwlad Thai i'r gorllewin.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Tardda hanes y wlad yn ôl i Deyrnas Lang Xang neu Dir y Miliwn o Eliffantod, a fodolodd o'r 14eg ganrif i'r 18fed ganrif. Wedi cyfnod yn perthyn i Wlad Thai ac wedyn i Ffrainc, enillodd ei annibyniaeth ym 1954. Daethpwyd â rhyfel cartref hir i ben pan ddaeth yr arweinwyr comiwnyddol, y Pathet Lao, i rym ym 1975 a chyhoeddi Gweriniaeth y Bobl.
[golygu] Economi
Mae masnach a menter breifat wedi cynnydu ers canol y 1980au, ond mae datblygu'n cael ei gwneud yn anodd gan y dirwedd fynyddig a choedwigol. Mae hyd at 80% o'r sawl sy'n gweithio yn y wlad yn gweithio yn y sector amaethyddiaeth gynhaliol sy'n cyfrif am 57% o'r GDP; ceir newyn ar raddfa eang oherwydd methiannau niferus comiwnyddiaeth a'r economi yno. Y kip yw'r arian cyfredol.
[golygu] Iaith a diwylliant
Mae nifer o grwpiau ethnig gwahanol yn y wlad a dim ond 60% sy'n perthyn i'r grŵp ethnig mwyaf sef y Lao. Lao yw'r iaith swyddogol ond ceir nifer o ieithoedd llai yn ogystal. Mae rhan fwyaf y boblogaeth yn Fwdhiaid.
[golygu] Rhanbarthau gweinyddol
Rhennir Laos yn 16 talaith (Kang), 1 ardal ddinesig (Kumpang nakon), ac un Ardal Arbennig (ketpisade):
- Attapu
- Bokeo
- Bolikhamxai
- Champasak
- Houaphan
- Khammouan
- Loung Namtha
- Louangphabang
- Oudomxai
- Phongsali
- Salavan
- Savannakhet
- Vientiane, Ardal Ddinesig
- Vientiane
- Xaignabouli
- Xaisomboun, Ardal Arbennig
- Xekong
- Xiangkhoang
Is-rennir Laos yn bellach yn muang yn ogystal.
[golygu] Dolenni allanol
- Laoconnection.com - gwybodaeth ddiwyllianol o bob math ar Lao
- Gweithgareddau'r Cenhedloedd Unedig yn Lao
- UNDP - gwefan swyddogol Lao
- Cynulliad Cenedlaethol Lao
- Gweinyddiaeth Masnach Lao
- Canolfan Ystadegau Cenedlaethol Lao
- CIA - The World Factbook: Laos
- Vientiane Times: swyddogol
- KPL Daily News - Asiantaeth Newyddion Lao
- Cymuned Ffrangeg Laos