Amffitheatr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae amffitheatr yn adeilad crwn neu eliptaidd â chanddo graddau o eisteddleodd sy'n codi oddi amgylch arena ganolog. Fe'i dyfeisiwyd gan y Rhufeiniaid ar gyfer llwyfannu gornestau gladiatoriaid a sioeau bwystfilod gwyllt, brwydrau môr ffug, ac ati.
Codid amffitheatrau pren bychain ledled y byd Rhufeinig o gyfnod cymharol cynnar ymlaen. Yr amffitheatr garreg cynharaf yw honno yn Pompeii, a godwyd tua'r flwyddyn 70 CC.
Y Colosseum yn Rhufain yw'r enghraifft fwyaf ond ceir enghreifftiau da yn Asia Leiaf, Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hefyd, yn ogystal ag yn Ewrop ei hun. Yng Nghymru ceir enghraifft dda yn hen ddinas Caerleon.
[golygu] Rhai amffitheatrau nodedig
- Arles, Ffrainc
- Caer, Lloegr
- Caerleon, Cymru
- Capua, Yr Eidal
- Cirencester, Lloegr
- Dürres, Albania
- El Djem, Tunisia
- Itálica, Sbaen
- Lecce, Yr Eidal
- Lyon, Ffrainc
- Martigny, Y Swistir
- Nîmes, Ffrainc
- Pompeii, Yr Eidal
- Pula, Croatia
- Rhufain, (y Colosseum)
- Syracuse, Sisili, Yr Eidal
- Tarragona, Sbaen
- Trier, Yr Almaen
- Verona, Yr Eidal