Albania
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair cenedlaethol: Dim | |||||
Iaith swyddogol | Albaneg | ||||
Prif Ddinas | Tiranë | ||||
Arlywydd | Alfred Moisiu | ||||
Prif Weinidog | Sali Berisia | ||||
Maint - Cyfanswm - % dŵr |
Rhenc 139 28,748 km² 4.7% |
||||
Poblogaeth
- Dwysedd |
Rhenc 126
122/km² |
||||
Annibyniaeth - Date |
Oddi wrth yr Ymerodraeth Ottoman 28 Tachwedd, 1912 |
||||
Arian | Lek | ||||
Cylchfa amser | UTC +2 | ||||
Anthem genedlaethol | Hymni i Flamurit | ||||
TLD Rhyngrwyd | .AL | ||||
Côd ffonio | +355 |
Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Albania. Y gwledydd cyfagos yw Montenegro yn y gogledd, Serbia yn y gogledd-ddwyrain, Macedonia yn y dwyrain a Gwlad Groeg yn y de. Mae ar lân Môr Adria a Môr Ionia. Ei phrif borthladd yw Dürres.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Mae Albania yn un o wledydd y Balcan. Mae hi'n wlad fynyddig iawn a elwir weithiau "Gwlad yr Eryr". Cyfyd y mynyddoedd i uchder o hyd at 2700m (9000 troedfedd). Ceir coedwigoedd sylweddol. Mae'r tir arfordirol yn ffrwythlon iawn.
Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Tiranë (y brifddinas), Durrës (y prif borthladd), Shkodër, Shëngjin, Elbasan, Vlorë a Sarandë.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd Durrës gan y Groegiaid mor bell yn ôl â'r 7fed ganrif CC.
Rhwng diwedd y 15fed a dechrau'r 20fed ganrif bu Albania'n rhan o'r Ymerodraeth Ottoman.
Yn 1912 enillodd Albania ei hannibyniaeth ar yr Ottomoniaid. Yn 1925, yn sgîl rhyfel cartref y cymerodd yr Eidal ran ynddo, aeth y wlad yn weriniaeth. Fodd bynnag troes yn fonarchiaeth unwaith yn rhagor yn 1928 pan gafodd ei harlywydd Ahmed Beg Zogu ei wneud yn frenin ar y wlad dan yr enw cofiadwy Brenin Zog. Cafodd y wlad ei meddianu gan luoedd arfog yr Eidal a'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd troes Albania'n wlad gomiwnyddol yn 1946 dan arweinyddiaeth yr unben Enver Hoxha. Ar ôl cyfnod o fod yn gynghrair triw i Stalin, troes Albania i'r Tsieina Faoaidd o 1961 ymlaen.
[golygu] Pobl a diwylliant
Mae'r mwyafrif o'r Albanwyr yn oerthyn i ddau grŵp ethnig, sef y Ghegiaid (i'r gogledd o Afon Shkumbi) a'r Tosgiaid (i'r de o'r afon honno); ychydig sy'n hysbys am eu gwreiddiau. Albaneg yw'r unig iaith swyddogol. Fel yn achos Cosofo dros y ffin, mae'r mwyafrif o'r dinesyddion yn Fwslemiaid.
[golygu] Economi
[golygu] Prif ddinasoedd a threfi Albania yn ôl poblogaeth
- Tiranë - 352,900
- Durrës - 113,800
- Elbasan - 96,800
- Shkodër - 85,800
- Vlorë - 84,400
- Korçë - 58,800
- Fier - 55,100
- Borshi - 9,500
- Kavajë - 40,000
- Lushnjë - 38,200
- Kavaja: 28.200
- Pogradeci: 23.700
- Laçi: 23.400
- Gjirokastra: 22.800
- Patosi: 21.000
- Kruja: 19.400
- Kuçova: 18.000
- Kukësi: 16.600
- Lezha: 16.600
- Saranda: 14.500
- Peshkopia: 14.100
- Burreli: 13.900
- Cërrik: 13.200
- Çorovoda: 13.200
- Shijak: 12.800
- Librazhdi: 11.500
- Tepelenë: 11.300
- Gramsh: 10.400
- Poliçan: 10.200
- Bulqizë: 10.000
- Përmet: 9.800
- Fushë-Krujë: 9.600
- Kamzë: 9.300
- Rrëshen: 9.200
- Ballsh: 9.100
- Mamurras: 7.600
- Bajram Curri: 7.500
- Ersekë: 7.500
- Peqin: 7.200
- Divjak: 7.069
- Selenicë: 6.900
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Amryw
- Lleoliad Albania ar glôb 3D (Java)
- Baneri hanesyddol Albania
- Albania a'r Balkan: fforwm trafod
- Geiriadur Geirdarddiol Albaneg
- Ffeithlyfr Byd y CIA — Albania
- Gwybodaeth gyffredinol am bobl Albania
- Dolenni swyddogol
- Llawlyfr OPIC ar Albania
- Llawlyfr teithio am Albania
- Map o Albania
- Hanes Albania
- Ffeithiau am wleidyddiaeth Albania a'i hetholiadau
[golygu] Gwefannau swyddogol y llywodraeth
- Swyddfa Twristiaeth Genedlaethol Albania
- Look-for-albania.com guide, forum & info
- Adran Gwybodaeth
- Senedd Albania
- Llywyddiaeth Albania
- Sefydliad Ystadegau Albania
- Banc Cenedlaethol Albania
Gwledydd y Môr Canoldir | |
---|---|
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci |