Anweledig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Band o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru yw Anweledig, yn chwarae cymysgedd o gerddoriaeth Ffync, Reggae, Ska a Roc. Yn y band mae Ceri Cunnington (llais), Gai Toms (gitar/cyfansoddi), Iwan 'Oz' Jones (gitar), Rhys Roberts (gitar fas), Alwyn Evans (drymiau) a Joe Buckley (allweddellau) ynghyd ag adran pres, 'Y Tri Tôn'.
Daeth Anweledig i'r amlwg yn y Sin Gerddoriaeth Gymraeg yn 1998, gydag albwm o'r enw 'Sombreros yn y Glaw' ar label Crai. Wedi ffurfio yn 1991, dros amser cawsant gigiau gyda'r Super Furry Animals, Ffa Coffi Pawb, Geraint Jarman ac eraill. I gyd-fynd a'u halbwm cynta', recordiwyd fideo ar gyfer sioe s4c, i-Dot, o'r gân 'Fan Hyn'.
Yn 1999, daeth EP 'Cae yn Nefyn' allan, eto ar label Crai. Yr adeg honno, cawsant headleinio ym Maes-B yn yr Eisteddfod. Yn y blynyddoedd yn dilyn, rhyddhawyd nifer o CDs gan y band sef y sengl 'Scratchy' (2000), yr albwm 'Gweld y Llun' (2001) a sengl 'Low Alpine' (2001). Gwnath hyn Anweledig yn adnabyddus dros Gymru, gyda'u sain unigryw yn gymysgedd o lawer o ddylanwadau. Yn 2002, aethant ar daith drwy Lydaw, cyn cymryd toriad er mwyn canolbwyntio ar brojectau eraill megis Mim Twm Llai (Gai Toms) a Vates (Oz). Yn 2004, daethant yn ôl at ei gilydd gan ail-ddechrau gigio a rhyddhau'r EP 'Byw'.