Blaenau Ffestiniog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Blaenau Ffestiniog Gwynedd |
|
Mae Blaenau Ffestiniog yn dref yng Ngwynedd sydd gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001).
Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.
Mae'r tir o gwmpas y dref yn rhan o'r parc cenedlaethol, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.
Yn draddodiadol, roedd yn rhan o Sir Feirionydd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Tyfodd Blaenau yn gyflym o gwmpas y chwareli llechi yn ystod y 19eg ganrif. Agorwyd rheilffordd fach (Rheilffordd Ffestiniog heddiw) i gludo llechi o Blaenau i Borthmadog, oedd yn borthladd bach prysur yn y 19eg ganrif.
[golygu] Diwylliant
Mae sawl band Cymraeg wedi dod o Flaenau Ffestiniog, Anweledig, Llwybr Llaethog a dau boi o Blaena er enghraifft.
[golygu] Enwogion
- R. Bryn Williams - ganed y llenor a hanesydd yn Blaenau ym 1902 a threuliodd ei blentyndod cynnar yno cyn symud â'r rhieni i'r Wladfa ym Mhatagonia.
- Gwyn Thomas - cafodd y bardd ac ysgolhaig adnabyddus, a aned yn Nhanysgrisiau ei fagu yn y Blaenau.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Ffestiniog 1898
[golygu] Trafnidiaeth
Saif Blaenau ar un pen Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n ei chysylltu â Chyffordd Llandudno a Llandudno trwy dirlun prydfrerth Dyffryn Conwy. Ceir lein arall, ar gyfer twristiaid yn bennaf heddiw ond yn y gorffennol yn dwyn llechi i'r cei ym Mhorthmadog, sef Reilffordd Ffestiniog. Mae'r A470 yn mynd trwy'r dref, ac mae gwasanaethau bws cyson i Fangor, sef rhif 1.
[golygu] Llyfryddiaeth
- amryw awduron, Chwareli a Chwarelwyr (Caernarfon, 1974)
- Gwyn Thomas, Yn Blentyn yn y Blaenau (1981). Darlith hunangofiannol.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.