Arwynebedd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Priodwedd meintiol yw arwynebedd sy'n mynegi maint rhan o arwyneb. Arwynebedd arwyneb yw swm arwynebeddau gwynebau allanol gwrthrych 3-dimensiwn.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Unedau
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o unedau arwynebedd:
- metr sgwâr = uned ddeilliedig SI
- ar = 100 metr sgwâr
- hectar = 10,000 metr sgwâr
- cilomedr sgwâr = 1,000,000 metr sgwâr
- megametr sgwâr = 1012 metr sgwâr
Unedau traddodiadol "Ymerodol", fel y'i diffinir eisioes o'r metr:
- troedfedd sgwâr = 0.09290304 metr sgwâr
- llathen sgwâr = 9 troedfedd sgwâr = 0.83612736 metr sgwâr
- erw = 43,560 troedfedd sgwâr = 4046.8564224 metr sgwâr
- milltir sgwâr = 640 erw = 2.5899881103 cilomedr sgwâr
[golygu] Fformiwlau defnyddiol
[golygu] Arwynebeddau gwrthrychau 2-dimensiwn
- Sgwâr neu betryal: h w (lle h yw'r hyd, ac w yw'r lled; mewn achos sgwâr, mae h = w).
- Cylch: πr2 (lle r yw'r radiws)
- Hirgrwn: πab (lle a a b yw'r echelinau lled-fwyaf a lled-leiaf)
- Unrhyw bolygon rheolaidd:
(lle mae P = hyd y perimedr, ac a yw hyd apothem y polygon [y pellter o ganolbwynt y polygon i ganolbwynt un o'r ymylon])
- Paralelogram: Su (Y sail S yw hyd rhyw ymyl, a'r uchder u yw'r pellter rhwng y llinellau sy'n cynnwys yr ymylon sydd â hyd S)
- Trapesoid:
(hydoedd yr ymylon paralel yw B a b, ac u yw'r pellter rhwng y llinellau sy'n cynnwys yr ymylon paralel)
- Triongl:
(lle mae S yn unrhyw ymyl, ac u yw'r pellter rhwng y llinell sy'n cynnwys S i gornel arall y triongl). Gellir defnyddio'r fforwla hwn os wybyddir yr uchder u. Os gwybyddir hyd y tri ymyl, yna gellir defnyddio'r fformwla canlynol:
(lle a, b, c yw hydoedd yr ymylon, ac
yw hanner hyd ei berimedr)
- Mae'r arwynebedd rhwng graff dwy ffwythiant yn hafal i integreiddad un o ffwythiannau f(x), tynnu integreiddiad y ffwythiant arall, g(x).
- Yr arwynebedd a amgylchynir gan ffwythiant r = r(θ) â mynegwyd cyfesurynnau polar yw
.
- Rhoddir yr arwynebedd a amgylchynir gan gromlin barametraidd
â diweddbwyntiau
gan integreiddiad llwybr
- neu cyfernod-z
[golygu] Arwynebedd arwyneb siapiau 3-dimensiwn
- Ciwb: 6h2, lle h yw hyd unrhyw ymyl
- Bocs petryalog: 2(hw + hu + wu), lle dynoda h, w, ac u hyd, lled, ac uchder y bocs
- Sffêr: 4πr2, π yw gymhareb hyd cylchyn a diamedr cylch, 3.14159..., ac r yw radiws y sffêr
- Sylindr: 2πr(u + r), lle r yw radiws y sail, ac u yw'r uchder
- Côn:
, lle r yw radiws y sail, ac u yw'r uchder.