Baglan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Enw hen sant Brythonaidd, ac enw'r pentref sy'n cael ei enwi ar ei ôl, ydy Baglan.
Mae Baglan yn hen bentref sydd nawr yn rhan o dref Porth Afan ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot ar ochr ddwyreiniol Bae Abertawe yn ne Cymru. Mae gan ardal cymuned Baglan 6,488 o drigolion, 10% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Enwyd y pentref ar ôl Sant Baglan. Bu Sant Baglan yn cael ei ddysgu ym mynachlog Llanilltud Fawr gan Illtud, fel Dewi Sant a llawer o seintiau eraill. Fel nhw aeth allan i sefydlu mynachdai eraill. Mae ei enw ar bentrefi Baglan a Llanfaglan.
Mae Baglan ar lethrau Mynydd Baglan. Rhwng Baglan a'r môr mae ardal Bae Baglan, ardal dywydog sydd wedi bod yn gartref i ddywidiant ers yr Ail Ryfel Byd. Roedd gweithfeydd cemegol BP Baglan Bay yn amlwg i bawb am ddegawdau ond nawr maen nhw wedi cael eu disodli gan ddiwydiannau amgen modern fel rhan o ddatblygiad Parc Ynni Baglan.
Trefi a phentrefi Castell-nedd Port Talbot |
Castell-nedd | Glyn-Nedd | Gwaun-Cae-Gurwen | Llansawel | Pontardawe | Port Talbot | Ystalyfera |