Beulah
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pentref bychan hanner ffordd rhwng tref Castell Newydd Emlyn a phentref glan-môr Aberporth ar Fae Ceredigion. Mae ardal Cyngor Cymuned Beulah yn cynnwys pentrefi Bryngwyn, Llandygwydd, Betws Ifan, Cwm Cou a'r mwyafrif o bentref Cenarth ar lannau'r afon Teifi ac yn gartref i dros 1,500 o bobl (1,586, Cyfrifiad 2001), 54% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, gyda 45% o'r boblogaeth wedi eu geni y tu allan i Gymru (Cyfrifiad 2001). O blith y trigolion sydd yn enedigol o Gymru, mae bron i 90% yn Gymry Cymraeg (cyfeiriad yn eisiau), felly mae'r cyferbyniad diwylliannol ac ieithyddol rhwng y brodorion a'r mewnfudwyr yn amlwg iawn.
[golygu] Mannau o ddiddordeb
Mae'r ardal Cyngor Cymuned yn cynnwys melin ddŵr Felin Geri yng nghwm coediog y Ceri, a rhaeadrau Cenarth.
Trefi a phentrefi Ceredigion |
Aberaeron | Aberarth | Aberporth | Aberteifi | Aberystwyth | Beulah | Blaenplwyf | Y Borth | Bow Street | Ceinewydd | Ciliau Aeron | Y Faenor | Llanarth | Llanbedr Pont Steffan | Llandyfriog | Llandysul | Llangrannog | Llanilar | Lledrod | Pontarfynach | Pontrhydygroes | Tregaron |