Blog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei diwedddaru yn gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys megis Blogger, Moveable Type, LiveJournal neu Wordpress yw blog. Fel arfer mae cofnod unigol yn cynnwys dolen i wefan arall gyda sylwadau am y ddolen neu gofnod dyddiadur cyhoeddus, ond gellir eu defnyddio ar gyfer sawl perwyl arall. Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol o ffôn lôn (lônflog) neu wedi eu llwytho o gamera digidol (e.e. Bratiaithflog.
Un peth da am flogiau yw eu hygyrchedd a'r gallu i gyfieithu'r patrymlun i'r Gymraeg. Bydd y rhan fwyaf o flogiau Cymraeg a welwch yn uniaith Gymraeg oherwydd hyn. Mae gweflogiau'n cael eu ysgrifennu gan bobl pwysig iawn, neu bobl sydd ddim mor bwysig â hynny, a gall pobl ddarllen am eu helyntion a chynnig sylwadau arnynt.
Mae'r nifer o weflogiau sydd ar gael yn y Gymraeg yn parhau i fod yn weddol isel o'i gymharu a ieithoedd eraill tebyg ond daeth cynnydd yn y niferoedd yn nechrau 2003, o bosibl yn sgil dylanwad Morfablog, un o'r blogiau Cymraeg cynharaf, yn unol a thŵf Maes E, gwefan drafod yn Gymraeg, lle bu galw ar bobl i ddechrau blogiau er mwyn cynyddu'r swmp o wefannau a gynhelir yn Gymraeg.
Mae rhestr gynhwysfawr o weflogiau Cymraeg eraill yn cael ei gynnal yn: Y Rhithfro. Gellir hefyd weld detholiad o gofnodion o flogiau Cymraeg ar y Blogiadur.