Brochwel Ysgithrog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Brochwel ap Cyngen (bu farw c. 560), a adnabyddir fel Brochwel Ysgrithrog yn frenin Teyrnas Powys. Mae'r llysenw anarferol Ysgithrog yn dod o "ysgythrddannedd".
Roedd Brochwel yn fab Cyngen ac yn dad i Cynan Garwyn a Sant Tysilio, sylfaenydd yr hen eglwys ym Meifod. Dywedir fod ei brif lys ym Mhengwern ar safle Amwythig heddiw. Mae'r hanesydd o Sais Beda yn cyfeirio at rhyw "Brochmail" a fu ym Mrwydr Caer tua 613, ond mae'n amlwg nad Brochwel oedd hwn, gan fod ei ŵyr, Selyf ap Cynan yn frenin Powys yr adeg honno. Efallai fod y cyfeiriadau ato dan yr enw "Brochfael" yn deillio o'i gymysgu a'r person y mae Beda'n cyfeirio ato.
Nid oes fawr o gofnodion am ddidwyddiadau yn ystod teyrnasiad Brochwel, ond yr oedd beirdd diweddarach yn aml yn cyfeirio at Powys fel "gwlad Brochwel".
[golygu] Cyfeiriadau
- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)