Buwch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Buchod | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||||
|
||||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||||
Bos taurus Linnaeus, 1758 |
Anifail dof yw buwch, lluosog buchod neu gwartheg. Maent yn cael eu bridio am eu llefrith a'u cig. Tarw yw'r gwryw.
[golygu] Ych
Fe ddefnyddir gwartheg (teirw gan amlaf) at waith tynnu. Gelwir tarw disbaddedig sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychain i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau.
Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd. Fe roddir iau ar eu gwarau fel bod gwaith y tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychain â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychain yn arafu, yn cerdded am nôl neu yn gostwng eu pennau.
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.