Caer Arianrhod
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Caer Arianrhod yn ynys fechan greigiog oddi ar arfordir Gwynedd, tua hanner y ffordd rhwng Pontllyfni a Dinas Dinlle a thua 1 km o'r lan. Y cyfeiriad OS yw SH431545.
Mae'r enw a cysylltiad a chwedl Math fab Mathonwy, y bedwaredd gainc o'r y Mabinogi. Yn y chwedl mae gan Arianrhod gaer yn yr ardal yma, ac mae'r dewin Gwydion fab Dôn yn ymweld a'r gaer mewn llong, gan ddwyn ei nai Lleu Llaw Gyffes, mab Arianrhod, i gyfarfod ei fam.
Mae'r cytser Corona Borealis hefyd yn dwyn yr enw "Caer Arianrhod" yn Gymraeg.