Caerhun
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Caerhun yn safle caer Rufeinig Canovium, ar y ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon). Saif ar lan orllewinol Afon Conwy, rhwng Ty'n-y-groes a Dolgarrog ar y B5106, a gerllaw man lle gellir rhydio'r afon. Mae'n 24 milltir o Segontium, taith diwrnod i droedfilwyr Rhufeinig,
Nid oes lawer yn weddill o'r gaer, ond gellir gweld olion y muriau allanol. Mae'n dilyn y patrwm Rhufeinig arferol, yn sgwar gyda pob ochr tua 410 troedfedd o hyd. Mae'r eglwys a'r fynwent bresennol yn gorchuddio un gornel o'r gaer. Cafwyd hyd i deilsen gyda'r stamp LEG XX V, ac yn 1801 cafodd Samuel Lysons hyd i faddondy 39 medr o hyd i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer.
Adeiladwyd y gaer tua 75 - 77 O.C., yr un adeg a Segontium. Efallai ei bod wedi ei hadeiladu gan Agricola yn ystod ei ymgyrch yn erbyn yr Ordoficiaid. Pren oedd yr adeiladau ar y cychwyn, a'r mur allanol o glai. Yn yr ail ganrif, ail-adeiladwyd y gaer a cherrig. Credir bod y garsiwn yn Cohors Peditata Quingenaria, tua 500 o filwyr traed. Ymddengys fod y gaer yn parhau i gael ei defnyddio yn y bedwaredd ganrif, oherwydd cafwyd hyd i ddarn arian a delw yr ymerawdwr Gratianus (375-383). Tu allan i'r gaer yr oedd vicus, neu bentref. Heblaw bod ar y ffordd rhwng Deva a Segontium, roedd ffordd Rufeinig arall, Sarn Helen, yn cychwyn yma ac yn arwain tua'r de i Maridunum (Caerfyrddin).
Mae traddodiad llên gwerin yn cysylltu'r gaer â Rhun (fl. OC 550) fab Maelgwn Gwynedd.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
- Willoughby Gardner, "The Roman Fort at Caerhun" (Archaeologia Cambriensis, LXXX rhan 2, 1925)