Caerau Rhufeinig Cymru
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Codwyd nifer o gaerau yng Nghymru gan y Rhufeiniaid rhwng canol y ganrif gyntaf O.C. a chanol y 4edd ganrif. Fe'i cysylltid gan rwydwaith o ffyrdd Rhufeinig.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Caerau mawr
Roedd y rhwydwaith milwrol Rhufeinig yng Nghymru o siâp hirsgawr gyda phedair caer ym mhob congl ohono.
Yn y de-ddwyrain ceir caer Isca Silurum (Caerllion ar Wysg), ger Casnewydd heddiw. Hon oedd pencadlys y Rhufeiniaid yn y de. Yn gyfateb iddi yn y gogledd-ddwyrain dewiswyd safle ger aber Afon Dyfrdwy ar gyfer Deva (dinas Caer heddiw). Yn y ddwy gaer hyn sefydlwyd pencadlysoedd y llengoedd yng Nghymru, sef y Legio II Adiutrix yn Deva hyd 66 ac yna'r Legio XX Valeria Victrix, a'r Legio II Augusta yn Isca Silurum.
Yn ail i'r ddwy gaer bencadlys oedd caer Segontium yn y gogledd-orllewin (ger Caernarfon) a chaer Maridunum (neu Moridunum) yn y de-orllewin (Caerfyrddin).
Yn ogystal roedd yna gaer yn Viriconium (Wroxeter heddiw) i gadw golwg ar ganolbarth y wlad.
Yn ychwanegol i'r caerau hyn roedd 'na gyfres o gaerau llai.
Yn y gogledd ceir Caer Gybi ac Aberffraw ar Ynys Môn, Caerhun (Dyffryn Conwy), Bryn-y-Gefeiliau (neu Caer Llugwy) (ger Dolwyddelan), Llystyn (ger Porthmadog), Tomen-y-mur,Caer Gai a Pennal ym Meirionnydd.
Yn y canolbarth a'r gorllewin ceir Caersŵs, Caer Fforden a Cae Gaer yn Sir Drefaldwyn, Trawscoed a Llanio yng Nhgeredigion, Caerau, Pen-y-gaer acY Gaer ym Mrycheiniog, a chaer Clyro yn Radnor.
Yn olaf, yn y de-ddwyrain ceir Coelbren Gaer, Castell Nedd, Pen-y-darren, Gelli-gaer a chastell Caerdydd ym Morgannwg, a chaer Y Fenni a Coed y Caerau ym Mynwy.
[golygu] Caerau llai
Rhwng y caerau mawr ceir caerau llai yn Holt, Brithdir (Meirionnydd), Pen-y-crogbren (Sir Drefaldwyn), Pant Teg Uchaf (Ceredigion), Mynydd Myddfai a Castell Madog ym Mrycheiniog a Hirfynydd ym Morgannwg.
[golygu] Gwylfeydd
Darganfuwyd olion gwylfeydd Rhufeinig yn Bryn Glas ger Segontium (Arfon) a ger caer Hirfynydd ym Morgannwg. Pwrpas y rhain oedd rhoi rhybudd i'r gaer pe ddeuai ymosodiad.
[golygu] Caerau dros dro
Ceir olion caerau dros dro yn: Pen-y-gwryd ger yr Wyddfa, Rhyd Sarn (Meirionnydd), ger Caersws a Chaer Fforden (Trefaldwyn), Cwm-y-cadno ac Arosfa Garreg (Sir Gaerfyrddin), Y Pigwn, Heol-y-gaer ac Ystrafellte (Brycheiniog) a Blaen-cwm-bach, Twyn-y-briddallt a Pen-y-coed Cae ym Morgannwg.
[golygu] Caerau ymarfer
Gerllaw Tomen-y-mur a Doldinas (Meirionnydd), Caerau (Brycheiniog), ar Gomins Llandrindod ac ar Gomins Stafford, Mynydd Carn Coch a Chomins Gelli-gaer ym Morgannwg.
[golygu] Ffynonellau
- I. Ll. Foster a Glyn Daniel (gol.), Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)
- Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978)