Caint
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sir yn Lloegr yw Caint (Saesneg: Kent), yng nghongl dde-ddwyreiniol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 1,610,400 ac arwynebedd o 3,736 km³. Maidstone ydyw prif dref y sir. Mae Caint yn ffinio ar Surrey a Sussex i'r gorllewin, ar Essex i'r gogledd, ar draws Afon Tafwys, ac, mewn ffordd, ar Ffrainc i'r de-ddwyrain drwy Dwnnel y Sianel. Mae gogledd-orllewin y sir wedi'i lyncu o dan faestrefi Llundain.
Y sir hon ydyw'r agosaf at dir mawr Ewrop - dim ond 21 filltir neu 34 km sydd rhwng Dover a Cape Gris-Nez, gogledd Ffrainc.
Mae tarddiad yr enw Caint yn dyddio'n ôl i'r Brythoniaid, o bosib i lwyth y Cantiaci. Awrgrymwyd hefyd bod cysylltiad rhwng 'Caint' a'r gair Cymraeg 'cantel' (ymyl), gan ei bod ar 'ymyl' Prydain Fawr. Dyma'r rhan gyntaf o Loegr i gael ei gwladychu gan lwythau Tiwtonaidd y Saeson - yn yr achos yma y Jutiaid a greodd deyrnas Seisnig Caint, yn y bumed ganrif, a barhaodd nes cael ei llyncu gan Wessex. Gelwid Saeson Caint yn 'Cantwara', a Chaergaint oedd eu prifddinas. Mae mwy o enwau lleoedd o darddiad Brythoneg yng Nghaint e.e. Thanet, Dover, nag yn y rhan fwyaf o siroedd Lloegr, o bosib gan fod y Saeson cyntaf wedi ymsefydlu yma pan oedd y Brythoniaid yn dal i reoli.
Daeth Sant Awstin â Christionogaeth i Gaint yn niwedd y chweched ganrif.
Gelwir Caint yn 'Garden of England' (Gardd Lloegr) oherwydd ei thraddodiad amaethyddol. Mae hopys, i wneud cwrw, yn gnwd traddodiadol yng Nghaint, ac mae'r odyndai ('oast-houses') lle sychir yr hopys yn dal yn nodweddiadol o dirwedd y sir.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Swyddi seremonïol Lloegr | |
Berkshire | Bryste | Cumbria | De Efrog | Dorset | Dwyrain Sussex | Dyfnaint | Essex | Glannau Merswy | Gogledd Efrog | Gorllewin y Canolbarth | Gorllewin Sussex | Gorllewin Efrog | Gwlad yr Haf | Hampshire | Llundain Fwyaf | Manceinion Fwyaf | Middlesex | Norfolk | Northumberland | Riding Dwyreiniol Efrog | Rutland | Suffolk | Surrey | Swydd Amwythig | Swydd Bedford | Swydd Buckingham | Swydd Derby | Swydd Durham | Swydd Gaer | Swydd Gaergrawnt | Swydd Gaerloyw | Swydd Gaerlŷr | Swydd Gaerhirfryn | Swydd Gaint | Swydd Henffordd | Swydd Hertford | Swydd Lincoln | Swydd Northampton | Swydd Nottingham | Swydd Rydychen | Swydd Stafford | Swydd Warwick | Swydd Gaerwrangon | Tyne a Wear | Wiltshire | Ynys Wyth | |