Dyfnaint
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sir yn ne-orllewin Lloegr yw Dyfnaint (Saesneg: Devon, Cernyweg: Dewnans). Mae'n ffinio â Chernyw, Gwlad yr Haf, Dorset, Môr Hafren a Môr Udd. Er i'r ardal gael ei goresgyn a'i gwladychu gan Sacsoniaid Wessex yn yr Oesoedd Canol Cynnar, mae'r enw yn gysylltiedig ag enw hen deyrnas Geltaidd Dumnonia.
Dyfnaint ydyw'r unig sir yn Lloegr i fod â dau arfodir ar wahân, heb gyffwrdd â'i gilydd.
Mae baner Dyfnaint yn fodern. Fe'i mabwysiadwyd ar ôl cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y BBC. Mabwysiadwyd y briallu fel blodyn y sir hefyd.
Mae enwau lleoedd (trefi a phentrefi) o darddiad Celtaidd yn brin iawn yn Nyfnaint, ond maen nhw'n dod yn gyffredin yn syth ar ôl croesi Afon Tamar, ffin Cernyw, yn y gorllewin. Ond cadwodd y gwladychwyr o Sacsoniaid nifer o enwau'r Celtiaid ar afonydd.
[golygu] Dinasoedd a threfi
|
|
[golygu] Dolen allanol
- Cyngor Sir (Saesneg)
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Swyddi seremonïol Lloegr | ![]() |
Berkshire | Bryste | Cumbria | De Efrog | Dorset | Dwyrain Sussex | Dyfnaint | Essex | Glannau Merswy | Gogledd Efrog | Gorllewin y Canolbarth | Gorllewin Sussex | Gorllewin Efrog | Gwlad yr Haf | Hampshire | Llundain Fwyaf | Manceinion Fwyaf | Middlesex | Norfolk | Northumberland | Riding Dwyreiniol Efrog | Rutland | Suffolk | Surrey | Swydd Amwythig | Swydd Bedford | Swydd Buckingham | Swydd Derby | Swydd Durham | Swydd Gaer | Swydd Gaergrawnt | Swydd Gaerloyw | Swydd Gaerlŷr | Swydd Gaerhirfryn | Swydd Gaint | Swydd Henffordd | Swydd Hertford | Swydd Lincoln | Swydd Northampton | Swydd Nottingham | Swydd Rydychen | Swydd Stafford | Swydd Warwick | Swydd Gaerwrangon | Tyne a Wear | Wiltshire | Ynys Wyth | |