Calcutta
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Calcutta (hefyd Kolkata) yn ddinas anferth yng ngogledd-ddwyrain India, prifddinas talaith Gorllewin Bengal. Ei phoblogaeth swyddogol yw 12 miliwn (1999), ond cred llawer o bobl fod y ffigwr hyd at dair gwaith hynny mewn gwirionedd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Mae'r ddinas yn sefyll, neu'n hytrach yn gorweddian, ar lan ddwyreiniol Afon Hooghly (yn swyddogol, nid yw tref anferth Howrah â'i slymiau anhygoel, ar y lan orllewinol, yn rhan o ddinas Calcutta ei hun).
[golygu] Hanes
Yn ôl safonau India, nid yw Calcutta'n ddinas hen iawn. Cafodd ei sefydlu tua 300 mlynedd yn ôl gan y Prydeinwyr. Hyd 1911 Calcutta oedd prifddinas yr India Brydeinig. Yn 1686 rhoddodd y Prydeinwyr y gorau i fyw yn ei bost masnachu yn Hooghly, 36km i fyny'r afon, a symudasant i dri phentref bach - Sutanati, Govindpur a Kalikata. Y pentref olaf a roddodd ei enw i'r ddinas. Yn 1696 codwyd caer fach ar safle BBD Bagh ac yn 1698 rhoddodd ŵyr Aurangzeb ganiatâd swyddogol i'r Prydeinwyr fyw yno.
Tyfodd y pentrefi'n dref bur sylweddol fesul dipyn. Yn 1756 ymosododd Nawab Murshidabad ar y dref. Dihangodd y mwyafrif o'r trigolion Prydeinig ond daliwyd rhai ohonynt a'u carcharu mewn selar ddanddaear lle bu farw nifer dros nos; dyma'r Twll Du Calcutta enwog. Yn 1757 cipiodd Clive o India y dref yn ôl a threfniwyd heddwch â'r nawab. Yn ddiweddarqch yn yr un flwyddyn cododd Siraj-ud-daula yn erbyn y Prydeinwyr ond gorchfygwyd ef a'i gynghreiriaid Ffrengig ym mrwydr dynghedfennol Plassey. Mewn canlyniad codwy caer newydd, gryfach o lawer, a gwnaethpwyd Calcutta'n brifddinas India.
Tyfodd yn gyflym yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Ym mlynyddoedd olaf y Raj roedd Calcutta yn ganolfan bwysig i ymyrchwyr dros annibyniaeth i India ac felly symudwyd y brifddinas i Ddelhi. Ar ôl annibyniaeth daeth nifer o ffoadurion o ddwyrain Bengal (Bangladesh heddiw) i Galcutta. Mae nifer o bobl o'r cefn gwlad yn symud i'r ddinas bob blwyddyn hefyd ac mae'r boblogaeth yn cynyddu mewn canlyniad. Erbyn heddiw mae gor-boblogaeth yn broblem anferth yn y ddinas.
[golygu] Atyniadau
Ymhlith atyniadau Calcutta gellid crybwyll Amgueddfa India, Calcutta a Teml Kalighat, Pont Howrah, y Maidan (parc), y Gerddi Botanegol a'r Farchnad Newydd. Yng nghanol y ddinas rhan o'r awyrgylch yw'r hen adeiladau crand o gyfnod y Raj, er enghraifft swyddfeydd llywodraeth Gorllewin Bengal ar sgwâr hanesyddol BBD Bagh (Sgwâr Dalhousie).
[golygu] Enwogion
- Rabindranath Tagore
- Y Fam Teresa
[golygu] Dolenni allanol
- Cofforaeth Ddinesig Kolkata
- Awdurdod Datblygu Dinesig Kolkata
- Popeth am y ddinas
- Llywodraeth Gorllewin Bengal
- Map o'r ddinas
- Gwybodaeth ymarferol, Map, Dolenni, Lluniau & Ryseitiau bwyd
- Y Tywydd heddiw yn Kolkata
- Albym Lluniau gan aelodau o luoedd arfog UDA, 1945
- Lluniau o Calcutta @ Flickr
- Kolkata: Dinas Palasau
- Calcuttaweb: arweiniad cynhwysfawr i'r ddinas
- Calcutta heddiw
- Map rhyngweithredol o'r ddinas yn Google Maps API