Castell Caerffili
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Castell yng nghanol tref Caerffili a adeiladwyd rhwng 1268 a 1271 yw Castell Caerffili. Castell tua 1.2ha cydganol yw e gyda ffos o'i gwmpas. Hwn yw'r castell mwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Adeiladwyd y castell ar safle hen gaer Rufeinig gynharach gan Gilbert de Clare, Arglwydd Morgannwg a oedd o dras Normanaidd. Yr amcan oedd rhwystro'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd rhag ychwanegu'r tiroedd i'w Dywysogaeth.
Yn ystod gwrthryfel Llywelyn Bren yn 1316 ymosododd y Cymry ar y castell. Ymosododd rhan o fyddin Owain Glyndŵr arno hefyd.
Chafodd y castell ddim llawer o ddifrod adeg y Rhyfeloedd Cartref (1642-1648) ar wahân i'r tŵr de-orllewinol a ddechreuodd wyro.
[golygu] Adeiladwaith
Mae Caerffili yn gastell consentrig a amgylchynir gan ffosydd dŵr a chylchoedd o dir. Mae'r tŵr de-orllewinol yn 80 troedfedd o uchder ond yn gwyro allan 13 troedfedd.
[golygu] Cadwraeth a mynediad
Mae Castell Caerffili ar rhestr Cadw ac yn hawdd i gyrraedd o ganol tref Caerffili.
[golygu] Llyfryddiaeth
- William Rees, Caerphilly Castle, a history and description (1937)
- H. P. Richards, A History of Caerphilly (1975)