Castell Deudraeth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Un o gestyll cynnar tywysogion Gwynedd yw Castell Deudraeth (enw arall arno yw Castell Aber Iâ). Fel mae'r enw yn awgrymu, mae'n sefyll ar y penrhyn isel rhwng y ddau draeth, Y Traeth Mawr a'r Traeth Bach, lle rhed Afon Glaslyn ac Afon Dwyryd i Fae Tremadog, yng Ngwynedd.
Does dim byd llawer o'r castell yn sefyll erbyn heddiw. Cyfyeirir Gerallt Gymro ato yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru (1188). Roedd y castell newydd ei godi ac yn perthyn i 'feibion Cynan', ynghyd â Chastell Carn Fadryn dros y bae yn Llŷn. Gruffudd a Maredudd, meibion Cynan ab Owain Gwynedd oedd y 'meibion' hynny.
Castell mwnt a beili ydyw, fel Castell Prysor ger Trawsfynydd. Fel yn achos y castell hwnnw codwyd y mwnt ar ben talpen o graig naturiol. Bu tŵr carreg ar ben y mwnt ond diflannodd hwnnw tua 1860 pan gafodd ei ddymchwel gan y sgweier lleol am ei fod yn denu ymwelwyr. Y cwbl sy'n weddill rwan yw adfail mur uwchlaw ffos ar wyneb y gogledd. Mewn adroddiad gan ymwelydd cyn iddo gael ei dynnu i lawr dywedir ei fod yn dŵr lled-grwn tua 10-12 troedfedd o led ar un ochr adeilad bychan arall.
[golygu] Mynediad
Mae'r castell ar dir Portmeirion, i'r de o Benrhyndeudraeth, ac yn agored i ymwelwyr.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Roger Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)
Cestyll Tywysogion Gwynedd | |
---|---|
Abergwyngregin | Castell Caergwrle | Castell Carndochan | Castell Carn Fadryn | Castell Prysor | Castell y Bere | Castell Cricieth | Castell Cynfael | Castell Degannwy | Castell Dinas Brân | Castell Dinbych | Castell Deudraeth | Dinas Emrys | Castell Dolbadarn | Castell Dolforwyn | Castell Dolwyddelan | Castell Ewloe | Tomen y Rhodwydd |