Castell mwnt a beili
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Castell o domen o bridd gyda amddiffynfa bren arno yw castell mwnt a beili. Mae'n dull o adeiladu amddiffynfa a ddaeth i'r wlad yn ail hanner yr 11eg ganrif gyda dyfodiad y Normaniaid. Ceir rhai cannoedd o enghreifftiau o gestyll mwnt a beili yng Nghymru, Lloegr, de'r Alban a rhannau o Iwerddon. Maen hw'n arbennig o niferus ar hyd y Gororau neu'r Mers, cadarnle'r barwniaid Normanaidd rhwng Cymru a Lloegr. Tyfodd rhai ohonyn nhw i fod yn gestyll cerrig mawr tra arosai eraill yn domenydd pridd ar ôl cael eu defnyddio dros dro. Yng Nghymru mabwysiadwyd y dull newydd gan rhai o'r tywysogion Cymreig am gyfnod. Yr enw Cymraeg Canol am y math yma o gastell oedd tomen ('tump' ar y Gororau).
[golygu] Adeiladwaith
Prif bwrpas cestyll mwnt a beili oedd i gysgodi grwpiau bychain o farchogion a saethwyr (yr uned filwrol Normanaidd arferol) yn ystod y Goresgyniad Normanaidd. Roedd angen amddiffynfa hawdd i'w chodi. Fel rheol mae'r castell yn domen bridd (mwnt, mount) gron neu hirgron â phen gwastad gyda ffos o'i chwmpas. Weithiau byddai'r adeiladwyr yn manteisio ar nodwedd naturiol fel codiad tir. Yn gysylltiedig â'r mwnt roedd yn arferol - gyda ychydig iawn o eithriadau - godi amddiffynfa bren syml, palisâd o bren yn amgae darn o dir uchel. Dyma'r beili Byddai hyn yn cael ei godi naill ai ar ben y mwnt neu yn ei chyffwrdd. O fewn y tir o fewn y palisâd roedd yr amddiffynwyr yn codi tŵr pren syml; byddai'r dynion yn cysgodi yn y tŵr a'r meirch yn y tir o fewn y palisâd.
[golygu] Rhai enghreifftiau
- Pen y Mwd, Abergwyngregyn, Gwynedd.
- Castell Penfro, enghraifft dda o gastell Normanaidd a dyfodd yn gastell rheolaidd.
- Sycharth, safle llys Glyndŵr.
- Tomen y Mur, ger Trawsfynydd, Gwynedd.