Castell Harlech
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Castell sy'n sefyll uwchben dref Harlech a Bae Tremadog, Gwynedd yw Castell Harlech. Mae'r castell heddiw yn nghofal Cadw. Gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel un o gestyll a muriau trefol y Brenin Edward yng Ngogledd Cymru, yn 1986.
Adeiladwyd y castell gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1290. Cynlluniwyd y castell consentrig gan James o St George. Mae'r castell yn adeilad gref iawn uwchben craig fawr, ond gyda grisiau yn arwain at lan y môr. Fel hynny, roedd hi'n bosib anfon cychod dros y mor i'r castell yn ystod gwarchae, er enghraifft o Iwerddon. Defnyddiwyd y grisiau hyn i ddwyn nwyddau i'r castell mewn gwarchae yn ystod rhyfelgyrch Madog ap Llywelyn yn 1294–5.
Ar ôl gwarchae hir, cwympodd Castell Harlech i Owain Glyndŵr ym 1404, ond roedd y castell o dan reolaeth Saeson (Henri o Fynwy) drachefn ar ôl pedair blynedd arall.
Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau roedd y castell dan reolaeth Caerhirfryn a Dafydd ap Ieuan yn cadw'r castell yn wyneb gwarchae fu'n para am saith blynedd, ac er fod arweinyddion Lancaster yn ymdroddi i'r brenin. Mae'r gân "Rhyfelgych Gwŷr Harlech" yn cyfeirio at y cyfnod hwnnw.
[golygu] Pedair Cainc y Mabinogi
Yn Mhedair Cainc y Mabinogi Castell Harlech yw castell Bendigeidfran a'i chwaer Branwen ferch Llŷr, y dduwies y ceir yr hanes amdani yn Ail Gainc y Mabinogi. Fel yma mae'r Ail Gainc yn dechrau (mewn orgraff ddiweddar):
- 'Bendigeidfran fab Llŷr, a oedd frenin coronog ar yr ynys hon, ac ardderchog (meddianwr) o goron Llundain. A phrynhawngwaith ydd oedd yn Harlech yn Ardudwy, yn llys iddo (ei lys yno). Ac yn eistedd ydd oeddynt ar garreg Harlech, uwch ben y weilgi (môr), a Manawydan fab Llŷr ei frawd gydag ef...'