Rhyfeloedd y Rhosynnau
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Rhyfeloedd y Rhosynnau yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o 1455 i 1485 rhwng cefnogwyr Teulu Lancaster (y Lancastriaid) a Theulu Iorc (yr Iorciaid) oeddynt. Fe'i gelwir "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod rhosyn coch yn cynrychioli Lancaster a rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd Coron Lloegr. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt un ogystal.
Uchafbwynt y rhyfeloedd hynny oedd buddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w cefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri y brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan agor cyfnod y Tuduriaid.
[golygu] Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru
Er na fu brwydrau o bwys yng Nghymru, yr oedd Cymru yn ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau Iarll Penfro, Siaspar Tudur dros y Lancastriaid a William Herbert dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr Rhys ap Thomas ran bwysig yn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn brwydr Bosworth. Tueddai'r rhan fwyaf o'r Cymry i ochri â phlaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid, ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Yr oedd y bardd Guto'r Glyn er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid. Ym Mrwydr Mortimer's Cross yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd Owain Tudur.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.