Cefnfor Arctig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y cefnfor sydd o gwmpas Pegwn y Gogledd yw'r Cefnfor Arctig. Mae rhwng Norwy, Rwsia, Alaska (rhan o Unol Daleithiau America), Canada, Grønland a Gwlad yr Iâ.
Y moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Arctig yw Môr Norwy rhwng Norwy a Grønland, Môr Barents i'r gorllewin o Novaya Zemlya (ynys fawr sy'n perthyn i Rwsia), Môr Kara i'r dwyrain o'r ynys honno, Môr Laptev i'r gorllewin o Ynysoedd Novosibirskiye, a Môr Dwyrain Siberia oddi ar arfordir dwyrain Rwsia. Yng ngogledd America mae Môr Beaufort yn perthyn iddo.
Ynysoedd fwyaf y Cefnfor Arctig yw Spitsbergen (Norwy), Tir Franz Josef, Novaya Zemlya, Severnaya Zemlya, Ynysoedd Novosibirskiye ac Ynys Wrangel (i gyd yn perthyn i Rwsia), yn ogystal ag Ynys Victoria, Ynysoedd Parry ac Ynys Ellismere (y tair ohonyn nhw yn perthyn i Ganada).
Mae Cefnfor Arctig yn cysylltu i Gefnfor Iwerydd rhwng cyfandir Ewrop a Grønland ac hefyd trwy dyfrffyrdd niferus rhwng ynysoedd gogledd Canada sy'n cysylltu i Gulfor Davis rhwng Grønland a Chanada. Ceir cysylltiad arall i'r Cefnfor Tawel trwy Culfor Bering.
Dyfnder mwyaf y cefnfor hwn yw 5,220m, a maint ei arwyneb yw tua 12.26 miliwn km². Mae pacrew pegynol arno yn y gogledd ac mae rhew yn drifftio ar ei hyd bron.