Cemeg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Astudiaeth mater yw Cemeg (o'r Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â'i gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghŷd â'i drawsnewidiadau ar y lefel atomig. Mae'n delio gan fwyaf gyda casgliadau o atomau fel nwyon, moleciwlau, crisialau a metelau, yn ogystal a'u trawsffurfiadau a'u rhyngweithiadau i ddod yn ddefnydd a ddefnyddir ym mywyd cyffredin. Yn ogystal a hynny, mae cemeg yn ymwneud â deall priodweddau a rhyngweithiau o atomau unigol a defnyddio'r wybodaeth yna ar y lefel macrosgopig. Yn ôl cemeg fodern, mae priodweddau ffisegol defnyddiau wedi eu penderfynu ar y raddfa atomig, sydd yn ei dro yn cael ei ddiffinio gan rymoedd electromagnetic rhyngatomig a deddfau mecaneg gwantwm.
Mae'r astudiaeth hon yn gorgyffwrdd â ffiseg, gan drin egni a sut mae o'n ymadweithio gyda mater. Mae cemeg hefyd yn gorgyffwrdd cryn dipyn gyda bioleg, yn arbennig trwy'r disgyblaethau cysylltiedig o fiocemeg a bioleg folecwlaidd.
Mae'n bosib gweld trefn yr elfennau ar y Tabl Cyfnodol sy'n dangos pa nifer o brotonau sydd gan bob un a beth yw pwysau atomau'r elfen honno gan ddefnyddio Rhif Avogadro. Mae'n bosib gweld erthyglau sydd yn ymdrîn â chemeg trwy edrych yn y categori cemeg.
Gwyddoniaeth naturiol |
---|
Bioleg | Cemeg | Ecoleg | Ffiseg | Gwyddorau daear | Seryddiaeth |