Channel 4
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sianel deledu yn darlledu yn Saesneg yw Channel 4.
Fe ddechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd 1982, yr un dydd â'r sianel Gymraeg S4C. Mae 'Channel 4' yn darlledu trwy Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda S4C yn darlledu yn ei lle yng Nghymru.
Dechreuodd S4C trwy ddangos cymysgedd o raglenni Cymraeg brodorol yn yr oriau brig a rhaglenni Saesneg Channel 4 am weddill y dydd. Yn y dyfodol fydd y sianel S4C Digidol yn cymryd lle S4C ac yn darlledu trwy'r Gymraeg yn unig. Bydd rhaid i wylwyr Cymru defnyddio teledu cebl a lloeren i barhau i wylio 'Channel 4'.