Yr Alban
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Nemo me impune lacessit | |||||
Anthem: Flower of Scotland neu Scots wha hae (answyddogol) | |||||
![]() |
|||||
Ieithoedd | Saesneg, Gaeleg, Sgoteg | ||||
Prifddinas | Caeredin | ||||
Dinas fwyaf | Glaschu/Glasgow | ||||
Gweinidog Cyntaf | Jack McConnell | ||||
Arwynebedd | 78,782 km² | ||||
Poblogaeth Cyfrifiad 2001 Amcangyfrif 2005 Dwysedd |
5,062,011 5,094,800 64/km² |
||||
Arian breiniol | Punt (£) (GBP) | ||||
Cylchfa amser - Haf: |
UTC UTC +1 |
||||
Blodyn cenedlaethol | Ysgallen | ||||
Nawddsant | Sant Andreas |
Mae'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg: Alba, Sgoteg a Saesneg: Scotland) yn wlad yng ngogledd orllewin Ewrop. Mae'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain.
Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, ydyw nawddsant yr Alban - y 30ain o Dachwedd ydyw dyddiad dygwyl Sant Andreas.
Yr oedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18fed ganrif. Ar y 26ain o Fawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.
Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg - Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
![]() |
Gwledydd Celtaidd | ![]() |
---|---|---|
Gwelwch hefyd: Y Celtiaid |
Y Deyrnas Unedig | ![]() |
|
---|---|---|
![]() ![]() ![]() ![]() |