Charleroi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas yn ne-orllewin Gwlad Belg a dinas fwyaf Wallonia yw Charleroi (Walon Tchålerwè). Prifddinas talaith Hainaut yw hi. Saif ar Afon Sambre tua 50km i'r de i Frwsel. Mae Charleroi yn ganolfan ddiwydiannol o bwys, yng nghanol prif ardal glofaol Gwlad Belg. Er i ddiwydiant trwm wywo ers yr Ail Ryfel Byd, mae'r ddinas yn cynhyrchu haearn, dur, gwydr a chemegau o hyd. Mae ganddi boblogaeth o 201,300 (2006) yn y ddinas ei hun, a 421,586 yn yr arondissement (2005).