Japan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: Kimi ga Yo | |||||
Prifddinas | Tokyo | ||||
Dinas fwyaf | Tokyo | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Japaneg 1 | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol Akihito Shinzō Abe |
||||
Ffurfiant |
11 Chwefror 660 B.C. | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
377,835 km² (63fed) 0.8 |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
128,085,000 (10fed) 337/km² (30fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2005 $3.911 triliwn (3fed) $30,615 (16fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.943 (11fed) – uchel | ||||
Arian breiniol | Yen Japaneaidd (¥) (JPY ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
JST (UTC+9) | ||||
Côd ISO y wlad | .jp | ||||
Côd ffôn | +81 |
Mae Japan (Japaneg: 日本 Nihon; Nippon) (hefyd Siapan) yn wlad sy'n cynnwys miloedd o ynysoedd yn nwyrain Asia. Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (Taiheiyō), Setonaikai a Môr Japan (Nihonkai). Y gwledydd ger Siapan yw Rwsia, China, Gogledd Korea, De Korea a Taiwan.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Dinasoedd
Prifddinas Siapan yw Tokyo (Tōkyō), canolbwynt gwleidyddol ac economaid y wlad. Dinasoedd pwysig eraill yw Yokohama, Kawasaki a Chiba, ger Tokyo yn yr ardal a elwir yn Kantō (関東 "Giât y Dwyrain"). Yng gorllewin y wlad mae'r ardal Kansai (関西 Giât y Gorllewin), sy'n lleoliad i nifer o ddinasoedd pwysig eraill, megis Ōsaka, Kōbe a Kyōto. Rhai dinasoedd pwysig eraill yw Nagoya (rhwng Kyoto a Tokyo) a Fukuoka yng ngogledd Kyushu.
[golygu] Daearyddiaeth
Mae miloedd o ynysoedd yn Japan, ond yr ynysoedd mwyaf yw Hokkaidō yn y gogledd, Honshū yn y canol, Shikoku yn y de a Kyūshū yn y gorllewin. Mae Japan yn wlad fynyddig ac ychydig o wastadeddau sydd i'w cael lle y gellir lleoli dinasoedd — y rheswm am y dwysedd poblogaeth uchel. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (富士山 Fuji-san) (3776m).
Gan fod Japan yn rhan o'r Cylch Tân, y gadwyn o losgfynyddoedd o gwmpas y Cefnfor Tawel, ceir llawer o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a ffynhonnau poeth yn Japan.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Mae Japan yn deyrnas seneddol. Ceir Tenno (天皇Ymerawdwr) a senedd, system tebyg iawn i'r hyn sydd ym Mhrydain.
[golygu] Economi
Yn Japan, mae diwydiant a'r gwasnaethau yn bwysig iawn, llawer mwy na'r amaethyddiaeth. Gan fod prinder o adnoddau yn y wlad, mae'n rhaid mewnforio olew, haearn ac ati. Mae'r wlad yn allforio cynhyrchion technologol, er enghraifft ceir neu cynhyrchion trydanol a cemigol.
[golygu] Poblogaeth
Mae mwyafrif y bobl yn Japaneaid, a'r iaith swyddogol yw Japaneg. Yng ngogledd y wlad y mae grwp o bobl a elwir yr Ainu yn byw. Pobl wreiddiol ardal gogledd-ddwyrain Siapan. Mae mwyafrif y tramorwyr sy'n byw yn Siapan yn dod o Frasil a Korea.