Cnocell Fraith Fwyaf
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cnocell Fraith Fwyaf | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Dendrocopos major Linnaeus, 1758 |
Mae'r Gnocell Fraith Fwyaf (Dendrocopos major) yn un o aelodau mwyaf cyffredin teulu'r Picidae, y cnocellod. Mae'n byw trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia.
Cnocell ganolig o ran maint yw'r Gnocell Fraith Fwyaf, tua 23-26 cm o hyd a 38-44 cm ar draws yr adenydd. Mae'n byw mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a chaeau. Du a gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae gan y ceiliog ddarn coch ar y gwegil tra mae pen yr iar yn ddu a gwyn i gyd. Aderyn ieuanc sydd yn y llun, yn dangos y coch ar dop y ben sy'n nodweddiadol o adar yn eu blwyddyn gyntaf. Gellir gwahaniaethu'r gnocell yma oddi wrth y Gnocell Fraith Leiaf trwy fod gan y Gnocell Fraith Fwyaf goch ar ran gefn y bol, sy'n absennol yn y Gnocell Fraith Leiaf, a'r gwahaniaeth mawr mewn maint.
Yn enwedig yn y gwanwyn, gellir clywed y cnocell yma yn "drwmio", sef curo coeden yn gyflym a'i big i wneud sŵn y gellir ei glywed am gryn bellter. Mae'n byw ar bryfed sydd yn tyllu i mewn i goed fel rheol, ond gall hefyd ddefnyddio ei big nerthol i dorri trwy bren i fwyta cywion adar eraill sy'n nythu mewn tyllau mewn coed.
I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal. Y gnocell yma yw'r gnocell fwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.