Crysau Duon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y Crysau Duon yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer tim rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd.
Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf yn ystod taith 1905-06 i Ynysoedd Prydain gan y tim cenedlaethol cyntaf o Seland Newydd. Maent yn gwisgo yn gyfangwbl mewn du ar y maes chwarae, gyda rhedynnen arian ar y crys. Cyn dechrau'r gêm mae'n draddodiad fod y tim yn perfformio'r haka, sef dawns ryfel draddodiadol y Maori. Mae'n medru bod yn brofiad i ddychryn gwrthwynebwyr.
Mae'r Crysau Duon bob amser ymhlith y timau cryfaf yn y byd, er mai dim ond unwaith y maent wedi ennill Cwpan y Byd hyd yn hyn. Maent yn cystadlu yn flynyddol yn erbyn Awstralia a De Affrica ym Mhencampwriaeth y Tair Gwlad, a'r Crysau Duon enillodd y gystadleuaeth hon yn 2005.
Fel y gwelir isod, maent wedi ennill mwy o gemau nag y maent wedi eu colli yn erbyn pob gwlad arall. (yn gywir hyd at 25 Tachwedd 2005):
Gwrthwynebwyr | Gemau | Ennill | Colli | Cyfartal |
---|---|---|---|---|
Awstralia | 123 | 81 | 37 | 5 |
De Affrica | 67 | 36 | 28 | 3 |
Ffrainc | 41 | 30 | 10 | 1 |
Llewod Prydeinig | 38 | 29 | 6 | 3 |
Lloegr | 28 | 21 | 6 | 1 |
Yr Alban | 25 | 23 | 0 | 2 |
Cymru | 22 | 19 | 3 | 0 |
Iwerddon | 18 | 17 | 0 | 1 |
Ariannin | 12 | 11 | 0 | 1 |
Yr Eidal | 8 | 8 | 0 | 0 |
Samoa | 4 | 4 | 0 | 0 |
Fiji | 4 | 4 | 0 | 0 |
Tonga | 3 | 3 | 0 | 0 |
Canada | 3 | 3 | 0 | 0 |
XV y Byd | 3 | 2 | 1 | 0 |
Ynysoedd y Môr Tawel | 1 | 1 | 0 | 0 |
[golygu] Rhai chwaraewyr enwog
|