Jonah Lomu
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Jonah Tali Lomu (ganed 12 Mai, 1975) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb sydd wedi chwarae 63 o gemau rhyngwladol dros Seland Newydd.
Ganed Lomu yn Auckland yn Seland Newydd, er fod ei deulu yn hannu o Tonga. Dechreuodd ei yrfa rygbi fel blaenwr, ond yn ddiweddarach trodd yn asgellwr. Er gwaethaf ei faint, roedd yn syndod o gyflym; yn ei ddyddiau gorau gallai redeg 100 llath mewn 10.8 eiliad.
Chwaraeodd rygbi i dîm Counties Manukau, ac enillodd ei gap cyntaf i'r Crysau Duon yn 1994 yn erbyn Ffrainc pan oedd yn 19 mlwydd a 45 diwrnod oed, yr ieuengaf erioed i chwarae i Seland Newydd. Yng Ngwpan y Byd yn 1995 sgoriodd saith cais mewn pum gêm, gan gynnwys pedwar cais yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Lloegr. Ar ei orau yr oedd bron ym amhosibl ei atal oherwydd ei gyfuniad o nerth a chyflymdra. Yng Ngwpan y Byd yn 1999 sgoriodd wyth cais.
Ddiwedd 1996 darganfuwyd fod gan Lomu afiechyd prin a difrifol ar ei arennau. Ym mis Gorffennaf 2004 trawsblannwyd un o'i arennau, oedd wedi ei rhoi iddo gan Grant Kereama. Wedi'r trawsblaniad llwyddiannus, ail-ddechreuodd chwarae rygbi, ond anafodd ei ysgwydd mewn gêm yn Twickenham. Mae wedi arwyddo contract dwy flynedd i chwarae i North Harbour yn Seland Newydd, ac mae hefyd wedi cytuno i chwarae i dîm Gleision Caerdydd tu allan i'r tymor rygbi yn Seland Newydd. Dechreuodd chwarae i Gaerdydd yn Rhagfyr 2005.