Cyngor Chalcedon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cynhaliwyd Cyngor Chalcedon yn ninas Chalcedon yng ngorllewin Asia Leiaf (sy'n rhan o Istanbwl bellach) yn y flwyddyn 451.
Dyma'r pedwaredd cyngor eglwysig i gael ei gynnal gan yr Eglwys gynnar. Ynddo comdemniwyd fel heresïau rai o'r dysgeidiau ynglŷn â Deuoliaeth - sy'n honni fod gan Iesu Grist ddwy natur, sef natur ddwyfol a natur ddynol - a chadarnheuwyd dysgeidiaeth Cyngor Nicaea a Chyngor Cyntaf Caergystennin. Ynyswyd rhai o'r eglwysi dwyreiniol mewn canlyniad, gan gynnwys yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft.