David Crystal
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ieithydd, academydd ac awdur yw'r Athro David Crystal, OBE (ganwyd 1941 yn Lisburn, Gogledd Iwerddon). Cafodd ei fagu yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yng Nghaergybi. Mynychodd Coleg St Mair, Lerpwl, a Choleg y Brifysgol, Llundain, lle astudiodd Saesneg. Daeth yn ddarlithydd ieithyddiaeth yng Ngoleg y Brifysgol, Bangor, ac o 1965 i 1985 bu'n Anthro Gwyddor Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Reading. Yn 1995 derbynnodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i'r iaith Saesneg. Ef yw awdur dros 60 o lyfrau ar Saesneg ac ieithyddiaeth, ac mae hefyd wedi golygu a chyfrannu i nifer o gyfeirlyfrau.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol David Crystal