Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Er bod y rheol Gymraeg wedi ei sefydlu, bu eithriadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958. Fe siaradodd Aneurin Bevan yr aelod seneddol lleol o 1929 tan 1960, yn Saesneg. Doedd ei rieni ddim wedi trosglwyddo'r iaith Gymraeg iddo, arferiad cyffredin y dyddiau hynny. Disgrifiodd Bevan yr Eisteddfod fel conglfaen gwareiddiad, ac fe wnaeth annog peidio cyfeirio at 'Gymru a Mynwy' mwyach gan mai nodweddion Cymreig oedd i bobol Mynwy.
Bu cryn ddadlau yn y wasg ynglyn â'r rheol Gymraeg. Roedd y Western Mail yn dadlau am lai o Gymraeg yn yr Eisteddfod, er mwyn y di-Gymraeg, ond yr oedd eraill yn poeni y byddai'r Eisteddfod yn dychwelyd i fod yn ddwyieithog unwaith yn rhagor. Roedd y rheol Gymraeg wedi golygu bod cannoedd o bobl yng Nglynebwy wedi diddori yn y Gymraeg ac yn awyddus i'w dysgu.
Enillwyd y goron gan Llewelyn Jones o Lanbadarn a r y pwnc 'Cymod' mewn cystadleuaeth siomedig.
T.Llew Jones oedd enillydd y gadair, bardd ac awdur nifer fawr o lyfrau darllen i blant. Testun yr awdl oedd 'Caerllion-ar-Wysg' Yn yr awdl mae tadcu yn poeni bod ei ŵyr yn cyfeillachu gyda'r Rhufeiniaid, gan ddysgu eu hiaith a'u diwylliant gan droi ei gefn ar Gymru a'r iaith Gymraeg. Roedd y neges hon yn hynod o berthnasol i beth oedd yn digwydd yng Nghymru yn 1958 ac hyd yn oed heddiw.
Bu dadleuon eraill hefyd yn Baner ac Amserau Cymru. Beirniadodd R Gerallt Jones y beirniaid am eu dibynnaeth ar chwaeth bersonol a'u safon isel, a beirniadodd Kate Roberts yr eisteddfod am beidio roi sylw teilwng i'r nofel, a diffyg urddas seremoni'r fedal ryddiaith.
Fe wnaeth Paul Robeson ymweld â'r Eisteddfod hon.