T. Llew Jones
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Thomas Llewelyn Jones, (ganed 1915), sy'n ysgrifennu fel T. Llew Jones, yn nofelydd a bardd Cymraeg. Bu'n ysgrifennu am dros hanner canrif, ac mae'n un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol Cymru.
Ganed ef yn 1 Bwlch Melyn Pentrecwrt, Sir Gaerfyrddin. Wedi cael addysg yn Ysgol Ramadeg Llandysul bu'n athro ac yna'n brifathro am 35 mlynedd, yn Ysgol Gynradd Tregroes ac yna yn Ysgol Coedybryn ger Llandysul. Daeth i amlygrwydd gyntafd fel bardd, gan ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 ac eto y flwyddyn ganlynol.
Er iddo barhau i farddoni, daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur nofelau plant. Mae amryw o’r rhain yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol fel Barti Ddu a Twm Sion Cati. Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau i gyd, y rhan fwyaf yn nofelau ond ambell un ffeithiol hefyd, megis Ofnadwy Nos, hanes llongdrylliad y Royal Charter. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr ar wyddbwyll gyda’; fab, Iolo. Addaswyd nifer o’i lyfrau ar gyfer teledu a chyfieithwyd nifer i’r Saesneg ac ambell un i ieithoedd eraill megis Llydaweg.
Rhoddwyd gradd MA er anrhydedd iddo gan Prifysgol Cymru yn 1977 ac enillodd Wobr Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant. Ym mis Mawrth 2005, bron yn 90 oed, enillodd y gadair yn eisteddfod Cymdeithas Ceredigion.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau gan T. Llew Jones (anghyflawn)
- A chwaraei di wyddbwyll? gyda Iolo Jones
- Corn, pistol a chwip
- Canu'n iach! (1987)
- Cyfrinach y lludw
- Cyfrinach Wncwl Daniel : hanes rhyfedd hen feddyginiaeth lysieuol
- Berw gwyllt yn Abergweun : hanes rhyfedd glaniad y Ffrancod yn Abergwaun
- Dirgelwch yr ogof : nofel am smyglwyr
- Y corff ar y traeth
- Barti Ddu o Gasnewy' Bach
- Cri'r dylluan : nofel am Helyntion Beca
- Cerddi newydd i blant (o bob oed)
- Y ffordd beryglus
- Ymysg lladron
- Dial o'r diwedd : rhagor o anturiaethau Twm Siôn Cati
- Arswyd y byd! : tair stori ias a chyffro
- Ofnadwy Nos
- Dysgu difyr : llyfr amgylchedd i ysgolion a chartrefi
- Dirgelwch yr ogof : nofel am smyglwyr
- Yr ergyd farwol
- Fy mhobol i (2002)
- Geiriau a gerais (2006)
- Gormod o raff
- Gwaed ar eu dwylo
- Helicopter! help! : a storiau eraill
- Hen gof : ysgrifau llên gwerin
- Lawr ar lan y môr : storïau am arfordir Dyfed
- Lleuad yn olau
- Merched y môr a chwedlau eraill : storiau gwerin
- Storïau Cwm-pen-llo
- Trysor Plasywernen
- Trysor y môr-ladron
- Tân ar y comin
- Un noson dywyll
- Ysbryd Plas Nantesgob
[golygu] Llyfrau ar T. Llew Jones
- Teifi, Siân Cyfaredd y cyfarwydd : astudiaeth o fywyd a gwaith y prifardd T. Llew Jones
- Cyfrol deyrnged y Prifardd T. Llew Jones (golygwyd gan Gwynn ap Gwilym)